Cyfrinachedd a chydsyniad
Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi heb gael eich cydsyniad oni bai ein bod yn pryderu am eich diogelwch neu ddiogelwch rhywun arall, neu os yw’n ofynnol i ni wneud yn ôl y gyfraith, er enghraifft:
- Os ydym o’r farn eich bod chi neu rywun arall dan risg difrifol o gael niwed, yna mae’n bosib y bydd angen i ni ddweud wrth yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol
- Os oes pryderon diogelu ynglŷn â phlentyn neu berson ifanc (neu oedolyn sy’n agored i niwed sydd dan risg), yna mae’n bosib y bydd rhaid i ni ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol.
- Os oes gorchymyn cyfreithiol neu orchymyn llys i wneud hynny, yna byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda llys neu gyda’r heddlu yn unol â’r gorchymyn.
- Ble bo modd, byddwn wastad yn ceisio cael eich cydsyniad cyn rhannu eich manylion, er enghraifft:
- I’ch helpu i wneud cais am iawndal anafiadau troseddol neu i’ch helpu gydag asiantaeth arall
- Os ydych chi o dan 13 oed a bod eich rhieni’n gofyn am gael gweld unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch, yna byddwn wastad yn siarad â chi gyntaf ac yn penderfynu pa wybodaeth, os o gwbl, fydd yn cael ei rhannu.
- Gallwch chi siarad â ni’n ddienw os yw’n well gennych, er y gallai fod angen i ni ddefnyddio’ch cyfeiriad IP i ganfod ble rydych chi mewn argyfwng.
- Rydyn ni’n cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel yn ein cronfa ddata ac yn ei defnyddio i helpu i ddarparu cymorth i chi yn unig. Gallwch chi ofyn am gael gweld y wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n Hysbysiad Prosesu Teg.