Y cap ar brisiau ynni

Y cap ar brisiau ynni yw'r swm uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi arnoch fesul uned o ynni a thâl sefydlog os ydych chi ar dariff amrywiol safonol.

Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, bydd y cap ar brisiau ynni yn cael ei osod ar £1,717 y flwyddyn ar gyfer cartref nodweddiadol sy'n defnyddio nwy a thrydan ac yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae hyn yn gynnydd o 10% o gymharu â'r cap a osodwyd rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024 (£1,568). 

Mae'r cap ar brisiau yn seiliedig ar ddefnydd ynni cartref nodweddiadol. Darllenwch sut y caiff defnydd ynni cartref nodweddiadol ei gyfrifo yn ein canllawiau ar Ddefnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd.

Mae'r cap ar brisiau hefyd yn sicrhau bod y prisiau i bobl ar dariff amrywiadwy safonol (tariff diofyn) yn deg a'u bod yn adlewyrchu cost ynni.

Mae cap ar bris eich contract os ydych yn talu am eich trydan a nwy drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • credyd safonol (gwneir y taliad pan fyddwch yn cael eich bil trydan a nwy)
  • Debyd Uniongyrchol
  • mesurydd rhagdalu
  • Mesurydd Economi 7 (E7)

Prisiau uned a thaliadau sefydlog trydan a nwy, 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2024

 

Cap ar brisiau ynni a'r tâl sefydlog

1 Gorffennaf a 30 Medi 2024

Cap ar brisiau ynni fesul uned a'r tâl sefydlog

1 Hydref i 31 Rhagfyr 2024

Trydan

22.36 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 60.12 ceiniog

24.50 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog o 60.99 ceiniog fesul kWh

Nwy

5.48 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 31.41 ceiniog

6.24 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog o 31.66 ceiniog fesul kWh

Caiff y ffigurau eu talgrynnu i ddau le degol ac maent yn seiliedig ar y cyfartaledd ar gyfer pobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys TAW.

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni eich rhanbarth

Bydd yr union gyfradd a godir arnoch am bob uned yn dibynnu ar lle rydych chi'n byw, sut rydych yn talu eich bil a'r math o fesurydd sydd gennych. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth

Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau ynni

Mae gwahanol gostau wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau. Bydd unrhyw newidiadau i'r costau hyn yn effeithio ar swm y cap ar brisiau ynni pan gaiff ei adolygu. Er enghraifft, os bydd swm yr hyn sy'n rhaid i gyflenwr ei dalu yn cynyddu, bydd lefel y cap ar brisiau yn cynyddu. Os bydd y gost yn gostwng, bydd lefel y cap ar brisiau yn gostwng.

Mae'r costau wedi cael eu talgrynnu ac mae'n bosibl nad ydynt yn gyfwerth â'r cyfanswm.

Darllenwch sut y mae'r costau wedi newid ar bob lefel y cap ar brisiau

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Cost Gorffennaff a Medi 2024 Hydref - Rhagfyr 2024 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £613 £736 £123
Addasiadau dros dro annisgwyl i'r costau (addasiad lwfans)  £28 £28 £0
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)  £363 £370 £7
Costau busnes y cyflenwr (gweithredu)  £223 £232 £9
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi)  £188 £187 -£1
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £38 £43 £4
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £16 £18 £2
Costau ychwanegol ar gyfer cyflenwi ynni i gwsmeriaid sy'n defnyddio dulliau talu gwahanol

(cynnydd yn y dull o dalu) 
£15 £16 £1
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)  £10 £7 -£3
TAW (5%) £75 £82 £7
Cyfanswm  £1,568 £1,717 £149

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, talu drwy fesurydd rhagdalu

Cost Gorffennaff a Medi 2024 Hydref - Rhagfyr 2024 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £613 £735 £123
Addasiadau dros dro annisgwyl i'r costau (addasiad lwfans)  £9 £9 £0
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)  £355 £363 £7
Costau busnes y cyflenwr (gweithredu)  £197 £187 -£11
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi)  £188 £187 -£1
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £39 £43 £4
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £17 £18 £2
Costau ychwanegol ar gyfer cyflenwi ynni i gwsmeriaid sy'n defnyddio dulliau talu gwahanol

(cynnydd yn y dull o dalu) 
£82 £83 £2
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)  -£50 -£35 £15
TAW (5%) £72 £79 £7
Cyfanswm  £1,522 £1,669 £147

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, talu drwy gredyd safonol

Cost Gorffennaff a Medi 2024 Hydref - Rhagfyr 2024 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £613 £736 £123
Addasiadau dros dro annisgwyl i'r costau (addasiad lwfans)  £28 £28 £0
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)  £363 £370 £7
Costau busnes y cyflenwr (gweithredu)  £223 £232 £9
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi)  £188 £187 -£1
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £40 £44 £4
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £18 £20 £2
Costau ychwanegol ar gyfer cyflenwi ynni i gwsmeriaid sy'n defnyddio dulliau talu gwahanol

(cynnydd yn y dull o dalu) 
£117 £125 £9
TAW (5%) £80 £87 £8
Cyfanswm  £1,668 £1,829 £161

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024, talu drwy tariff Economy 7 (Ddebyd Uniongyrchol)

Cost Gorffennaff a Medi 2024 Hydref - Rhagfyr 2024 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £394 £456 £63
Addasiadau dros dro annisgwyl i'r costau (addasiad lwfans)  £15 £15 £0
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)  £220 £239 £19
Costau busnes y cyflenwr (gweithredu)  £112 £117 £5
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi)  £201 £199 -£1
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £23 £25 £3
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £11 £12 £1
Costau ychwanegol ar gyfer cyflenwi ynni i gwsmeriaid sy'n defnyddio dulliau talu gwahanol

(cynnydd yn y dull o dalu) 
£9 £9 £0
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)  £5 £4 -£1
TAW (5%) £49 £54 £4
Cyfanswm  £1,037 £1,131 £94

Ychwanegwyd y lwfans lefelu at y cap ar brisiau ar 1 Ebrill 2024. Mae wedi'i roi ar waith er mwyn sicrhau bod pobl sy'n talu am eu hynni drwy ddefnyddio mesurydd rhagdalu yn talu'r un tâl sefydlog â'r rhai sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. 

Rydym yn monitro cyflenwyr i sicrhau nad yw cyfraddau tariff amrywiol safonol (tariff diofyn) yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a osodir gan y cap ar brisiau ynni. Darllenwch fwy am y ffordd rydym yn diogelu'r bobl hyn yn ein polisi ar y cap ar brisiau ynni (tariff diofyn).

Dyddiadau lefel y cap ar brisiau ynni 

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis. Bydd y lefelau ar gyfer y cyfnodau nesaf yn cael eu cyhoeddi erbyn: 

  • 25 Tachwedd 2024 – y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025
  • 25 Chwefror 2025 – y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 30 Mehefin 2025
  • 26 Mai – y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Medi 2025