Cyflwyniad
Mae’r wefan legislation.gov.uk yn cael ei rheoli gan Yr Archifau Gwladol, adran anweinidogol a chyhoeddwr Llywodraeth y DU ac ar gyfer Cymru a Lloegr. Gweithredir y wefan ar ran y Rheolwr Data, yr Archifau Gwladol (TNA) dan gontract gyda’r Llyfrfa (TSO) sef y Prosesydd Data.
Gwybodaeth a gasglwn amdanoch ar-lein
Pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon, bydd ein Contractwr, TSO, yn casglu gwybodaeth am y defnydd o’r wefan a gwybodaeth am eich cyfrifiadur a’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd, gan gynnwys cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, math a fersiwn eich porwr (fel Internet Explorer 7 neu Firefox 3.6) a’r system weithredu a ddefnyddiwch, eich parth rhyngrwyd a, os cyrhaeddoch legislation.gov.uk drwy ddolen o wefan arall, URL y dudalen gyswllt.
Defnyddir y wybodaeth hon i sicrhau, mor ymarferol â phosib, bod y wefan ddeddfwriaethol yn cyfateb i’r porwyr a’r systemau gweithredu a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o’n hymwelwyr. Caiff ei defnyddio hefyd er dibenion ymchwil i wella ein dealltwriaeth o anghenion y cwsmeriaid wrth ddatblygu’r wefan. Mae’r Archifau Gwladol yn prosesu’r wybodaeth hon er mwyn rhoi’r gallu i chi ddefnyddio’r wefan legislation.gov.uk, fel rhan o waith Gweinidog y Goron.
Cyflwynir canlyniadau holl ymchwil a dadansoddiad o’r fath fel gwybodaeth anhysbys neu gyfanredol ac ni fydd yn datgelu unrhyw ffeithiau personol am ddefnyddwyr unigol. Mae’r contract gyda TSO yn sicrhau bod y data’n cael ei reoli’n ddiogel ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw drydydd parti.
Yn gyffredinol nid yw gwefan legislation.gov.uk yn defnyddio cwcis. Defnyddir cwcis pan fydd y wefan yn cyflwyno hysbysebion ar faneri – ar gyfer arolygon gan ddefnyddwyr neu hysbysebion am swyddi ar gyfer Yr Archifau Gwladol.
Dysgwch am gwcis a sut a pham yr ydym yn eu defnyddio.
Eich hawliau
Mae gennych rai hawliau penodol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i gael gweld eich gwybodaeth bersonol, i wneud cais i ddileu’r wybodaeth honno, neu fod y gwaith o’i phrosesu wedi’i gyfyngu, neu bod unrhyw wybodaeth bersonol anghywir yn cael ei chywiro, er mae rhai eithriadau os bydd hi’n ofynnol yn gyfreithiol i gyhoeddi’r wybodaeth. Mae’r hawl gennych hefyd i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu, neu mewn rhai amgylchiadau i gael copi o’r wybodaeth bersonol ar ffurf y gall peiriant ei ddarllen. Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau o’r fath yn ysgrifenedig i’n tîm gwasanaeth cwsmer.
Mae’r hawl gennych hefyd i gwyno am y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol i’r awdurdod goruchwyliol lleol, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y DU (www.ico.org.uk).
Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0303 123 1113. Neu ewch ar-lein i www.ico.org.uk/concerns (sy’n agor mewn ffenestr newydd; nodwch ni allwn fod yn gyfrifol am yr hyn sy’n cael ei gynnwys mewn gwefannau allanol).
Neu ysgrifennwch atynt yn:
Information Commissioner's Office,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow Cheshire,
SK9 5AF
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd
Adolygir yr Hysbysiad Preifatrwydd o dro i dro i gynnwys y newidiadau i’n gwaith neu’n arferion ac yn ogystal â hynny i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol yn sgil unrhyw newidiadau mewn cyfraith, technoleg a’r amgylchedd busnes. Rheolir unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir gan yr Hysbysiad Preifatrwydd mwyaf cyfredol.
Swyddog Diogelu Data’r Archifau Gwladol
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data, Linda Stewart, yn
The National Archives,
Kew,
Surrey,
TW9 4DU.
Mae’r cyfeiriadau e-bost yn dilyn y ffurf ganlynol: enwcyntaf.cyfenw@nationalarchives.gov.uk.