Sut i bleidleisio
Trosolwg
Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU.
Bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cadarnhewch pa fathau o brawf adnabod y gallwch eu defnyddio cyn i chi fynd i bleidleisio.
Mae rheolau gwahanol os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ffyrdd o bleidleisio
Gallwch bleidleisio:
- yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio
- drwy’r post
- drwy wneud cais i gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)
Ni allwch bleidleisio ar-lein mewn unrhyw etholiadau.
Cymhwysedd i bleidleisio
Gallwch bleidleisio pan fyddwch:
- yn 18 oed mewn etholiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- yn 16 oed yn etholiadau Senedd yr Alban ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban (ac mewn etholiadau eraill pan fyddwch yn 18 oed)
- yn 16 oed yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru (ac mewn etholiadau eraill pan fyddwch yn 18 oed
Etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt
Mae rheolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio mewn etholiadau a refferenda gwahanol.