Gwneud cais am ysgariad
Printable version
1. Gwirio a allwch gael ysgariad
Gallwch gael ysgariad yng Nghymru neu Loegr os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- rydych wedi bod yn briod ers mwy na blwyddyn
- mae eich perthynas wedi chwalu’n gyfan gwbl
- mae eich priodas wedi’i chydnabod yn gyfreithiol yn y DU (gan gynnwys priodas o’r un rhyw)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych yn dod â phartneriaeth sifil i ben, darllenwch y cyfarwyddyd dod â phartneriaeth sifil i ben.
Os nad ydych eisiau ysgariad, gallwch gael ymwahaniad cyfreithiol fel y gallwch fyw ar wahân heb ddod â’r briodas i ben. Efallai y byddwch hefyd yn gallu dirymu’r briodas. Gallwch wneud cais am ymwahaniad neu ddirymiad yn ystod blwyddyn gyntaf eich priodas.
Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau cael ysgariad yn Yr Alban neu gael ysgariad yng Ngogledd Iwerddon.
2. Cyn ichi wneud cais
Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig ynteu wneud cais ar eich pen eich hun.
Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 7 mis i gael ysgariad. Mae hyn yr un peth ar gyfer ceisiadau ar y cyd a cheisiadau unigol.
Gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig
Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech gael ysgariad
- nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig
Bydd angen ichi benderfynu os ydych eisiau gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Bydd angen i’ch gŵr neu eich gwraig ddefnyddio’r un dull i wneud cais.
Bydd rhaid i’r ddau ohonoch gadarnhau ar wahân eich bod eisiau parhau gyda’r cais am ysgariad ym mhob cam o’r broses.
Os bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn rhoi’r gorau i ymateb, byddwch yn gallu parhau gyda’r cais am ysgariad fel unig geisydd.
Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu’r ffi ysgariad, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys.
Gwneud cais am ysgariad ar eich pen eich hun
Gallwch wneud cais fel unig geisydd os yw un o’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- nid yw eich gŵr neu’ch gwraig yn cytuno i gael ysgariad
- nid ydych yn meddwl y bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn cydweithredu neu’n ymateb i hysbysiadau gan y llys
Bydd rhaid ichi gadarnhau eich bod eisiau parhau gyda’r cais am ysgariad ym mhob cam o’r broses.
Trefniadau ar gyfer plant, arian ac eiddo
Gallwch chi a’ch gŵr neu’ch gwraig ddewis sut i benderfynu ar:
- drefniadau ar gyfer gofalu am unrhyw blant sydd gennych
- taliadau cynhaliaeth plant ar gyfer unrhyw blant sydd gennych
Gallwch hefyd rannu eich arian a’ch eiddo.
Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau plant, arian ac eiddo.
Cael help neu gyngor
Gallwch gael cyngor ar waith papur cyfreithiol a gwneud trefniadau gan:
Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os ydych angen cyngor cyfreithiol.
Os ydych wedi priodi â mwy nag un person
Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Ysgaru os ydych wedi priodi â mwy nag un person (amlbriodas).
3. Sut i wneud cais
Bydd arnoch angen y canlynol i wneud cais am ysgariad:
- eich enw a’ch cyfeiriad llawn chi ac enw a chyfeiriad llawn eich gŵr neu’ch gwraig
- eich tystysgrif priodas wreiddiol neu gopi wedi’i ardystio (a chyfieithiad wedi’i ardystio os nad yw’r dystysgrif yn Saesneg)
- prawf eich bod wedi newid eich enw os ydych wedi ei newid ers i chi briodi - er enghraifft, eich tystysgrif priodas neu weithred newid enw
Gofynnir am gyfeiriad cyfredol eich gŵr neu’ch gwraig. Mae hyn fel bod y llys yn gallu anfon copi o’r cais am ysgariad atynt. Darllenwch beth i’w wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich gŵr neu’ch gwraig.
Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost eich gŵr neu’ch gwraig, bydd y llys yn anfon y papurau ysgaru atynt trwy e-bost. Os na fyddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, bydd y papurau yn cael eu hanfon drwy’r post.
Ffi
Mae ffi o £593 yn daladwy i wneud cais am ysgariad. Mae’r ffordd y byddwch yn talu yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais. Ni fydd eich ffi yn cael ei had-dalu ar ôl i’r hysbysiad bod eich cais am ysgariad wedi cychwyn gael ei anfon atoch.
Os oes arnoch angen help i dalu’r ffi
Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel. Gallwch wneud cais am yr help hwn ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur.
Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod. Rhowch y cyfeirnod hwnnw pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad fel na fydd rhaid ichi dalu’r ffi ymlaen llaw.
Os byddwch yn defnyddio ffurflen papur i wneud cais am help i dalu ffioedd, ni fyddwch yn cael cyfeirnod. Os nad ydych eisiau talu’r ffi ymlaen llaw, gwnewch gais am ysgariad trwy’r post a chynnwys eich ffurflen bapur am help i dalu ffioedd gyda’ch cais am ysgariad.
Yna gwneir penderfyniad ynghylch eich cais am help i dalu ffioedd. Yn ddibynnol ar y penderfyniad a wneir, efallai gofynnir i chi dalu rhan o’r ffi, neu’r ffi lawn.
Os ydych yn gwneud cais ar y cyd am ysgariad ac rydych eisiau help i dalu’r ffi, rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais am help. Os nad yw eich gŵr neu’ch gwraig yn gymwys neu ddim yn gwneud cais, bydd rhaid ichi dalu’r ffi lawn.
Gwneud cais ar-lein neu barhau â chais sy’n bodoli’n barod
Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais ar-lein.
Gall cyfreithwyr wneud cais ar-lein gan ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.
Os bu ichi gychwyn gwneud cais cyn 6 Ebrill 2022
Mewngofnodwch i barhau â chais a gychwynnwyd cyn 6 Ebrill 2022.
Os oes arnoch angen help i wneud cais ar-lein
Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Sgwrsio dros y we
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
Gwneud cais drwy’r post
Llenwch ffurflen gais am ysgariad D8 i gychwyn cais am ysgariad.
Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflen mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth.
Anfonwch gopi o’r ffurflen i:
Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG
Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.
Sut i dalu
Gallwch dalu un ai gyda:
- cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch gyda’r manylion talu
- siec - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’
4. Beth fydd yn digwydd ar ôl ichi wneud cais
Bydd yr hyn fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais yn dibynnu ar p’un a wnaethoch gais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig, neu ar eich pen eich hun.
Os wnaethoch gais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig
Byddwn yn gwirio eich cais. Os yw’n gywir, anfonir y canlynol at y ddau ohonoch:
- hysbysiad bod eich cais wedi cychwyn (wedi cael ei anfon allan)
- copi o’ch cais wedi’i stampio gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF)
- ‘cydnabyddiad cyflwyno’
- rhif yr achos
Rhaid i chi aros tan 20 wythnos ar ôl i’ch cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys. Ar ôl y cyfnod hwn gallwch chi a’ch gŵr neu’ch gwraig barhau gyda’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol.
Os wnaethoch gais fel ceisydd unigol
Bydd eich cais yn cael ei wirio. Os yw’n gywir, anfonir y canlynol atoch:
- hysbysiad bod eich cais wedi cychwyn (wedi cael ei anfon allan)
- copi o’ch cais wedi’i stampio gan GLlTEF
- rhif yr achos
Bydd y llys yn anfon y cais am ysgariad a chydnabyddiad cyflwyno at eich gŵr neu’ch gwraig.
Rhaid i’ch gŵr neu’ch gwraig ymateb i’r cydnabyddiad cyflwyno o fewn 14 diwrnod, gan ddweud p’un a yw yn:
- cytuno â’r ysgariad
- bwriadu gwrthwynebu’r ysgariad
Os ydynt yn cytuno â’r ysgariad
Gallwch barhau gyda’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol (neu ddyfarniad nisi os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022). Bydd angen i chi aros tan 20 wythnos ar ôl eich cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys cyn y gallwch wneud cais.
Os ydynt yn gwrthwynebu’r ysgariad
Bydd rhaid i’ch gŵr neu’ch gwraig lenwi ‘ffurflen ymateb’ i ddweud pam eu bod yn anghytuno â’r ysgariad.
Rhaid bod gan eich gŵr neu’ch gwraig reswm cyfreithiol gwirioneddol i wrthwynebu’r ysgariad. Ni allant wrthwynebu’r ysgariad dim ond oherwydd nad ydynt eisiau ysgariad neu i achosi oedi gyda’r broses. Efallai y bydd rhaid ichi fynd i’r llys i drafod yr achos.
Os na fyddant yn cyflwyno ffurflen ymateb, gallwch barhau â’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol (neu ddyfarniad nisi os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022).
Os na fydd eich gŵr neu’ch gwraig yn ymateb i’r ysgariad
Dylech gysylltu â’ch gŵr neu’ch gwraig a gofyn iddynt ymateb, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny. Gallant dal ymateb ar ôl y terfyn amser.
Os ydynt dal ddim yn ymateb, bydd y llys yn cysylltu â chi i ddweud wrthych bellach allwch ei wneud.
5. Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi
Dogfennau yw gorchymyn amodol a dyfarniad nisi, sy’n dweud nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na allwch gael ysgariad.
Sut i wneud cais
Bydd sut byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Rhaid i chi aros tan 20 wythnos ar ôl eich cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys cyn y gallwch wneud cais am orchymyn amodol.
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am orchymyn amodol ar-lein.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol.
Gallwch wneud cais am orchymyn amodol a pharhau gyda’r ysgariad fel ceisydd unigol, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ysgaru ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad cyn 6 Ebrill 2022
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, gallwch wneud cais am ddyfarniad nisi ar-lein.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am ddyfarniad nisi.
Byddwch hefyd angen llenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a ddywedir yn eich cais am ysgariad yn wir. Mae 5 ffurflen datganiad - defnyddiwch yr un sy’n berthnasol i’r rheswm rydych wedi’i roi dros gael ysgariad.
Atodwch gopi o ymateb eich gŵr neu’ch gwraig i’r cais am ysgariad.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd y llys yn adolygu eich cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi. Gall hyn gymryd sawl wythnos. Os bydd y barnwr yn cytuno, bydd y llys yn anfon tystysgrif atoch chi ac at eich gŵr neu wraig.
Bydd y dystysgrif yn datgan y dyddiad a’r amser bydd eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi yn cael ei gymeradwyo. Byddwch dal yn briod ar ôl iddo gael ei gymeradwyo,
Bydd rhaid i chi aros o leiaf 43 diwrnod (6 wythnos ac 1 diwrnod) ar ôl iddo gael ei gymeradwyo cyn y gallwch wneud cais i wneud yr ysgariad yn derfynol a dod â’r briodas i ben.
6. Cwblhau eich ysgariad
I ddod â’ch priodas i ben rhaid i chi wneud cais am un ai:
- gorchymyn terfynol
- dyfarniad absoliwt - os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022
Rhaid i chi aros o leiaf 43 diwrnod (6 wythnos ac 1 diwrnod) ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol neu’r dyfarniad nisi cyn y gallwch wneud cais i ddod â’ch priodas i ben.
Gallwch wneud cais am orchymyn terfynol fel unig geisydd, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ysgaru ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig.
Gwnewch gais o fewn 12 mis i chi gael y gorchymyn amodol neu’r dyfarniad nisi - fel arall bydd rhaid i chi esbonio’r oedi i’r llys.
Sut i wneud cais
Bydd sut byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad.
Os ydych eisiau trefniant rwymol gyfreithiol ar gyfer rhannu arian ac eiddo rhaid ichi wneud cais i’r llys am hwn cyn ichi wneud cais am orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am orchymyn terfynol.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn terfynol.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad cyn 6 Ebrill 2022
Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, gallwch wneud cais am ddyfarniad absoliwt ar-lein.
I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am ddyfarniad absoliwt.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd y llys yn gwirio:
- bod y terfynau amser wedi’u bodloni
- nid oes unrhyw reswm arall i beidio â chymeradwyo’r ysgariad
Bydd y llys yn anfon copïau o’r gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt at y ddau ohonoch.
Os yw cyfreithiwr yn gweithredu ar eich rhan, bydd y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt yn cael ei anfon atyn nhw. Bydd angen i chi ofyn am gopi ganddyn nhw.
Unwaith y byddwch yn cael y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt, rydych wedi ysgaru, nid ydych yn briod mwyach ac rydych yn rhydd i briodi eto os y dymunwch.
Cadwch y gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt yn rhywle diogel - bydd arnoch angen ei ddangos os byddwch yn ailbriodi neu i brofi eich statws priodasol.
Os byddwch yn colli eich gorchymyn terfynol neu’ch dyfarniad absoliwt, gallwch wneud cais i’r llys am gopi ohono.
Os wnaethoch gais fel ceisydd unigol ac nid ydych yn gwneud cais i gwblhau’r ysgariad
Gall eich gŵr neu’ch gwraig wneud cais os ydych chi ddim. Bydd rhaid iddynt aros am 3 mis ychwanegol i wneud hyn, ar ben y cyfnod safonol o 43 diwrnod.
7. Os nad oes gan eich gŵr neu’ch gwraig alluedd meddyliol
Gallwch wneud cais am ysgariad os nad oes gan eich gŵr neu’ch gwraig ‘alluedd meddyliol’ ac ni allant gytuno i ysgariad na chymryd rhan yn yr achos ysgaru.
Bydd eich gŵr neu’ch gwraig angen rhywun i wneud penderfyniadau iddynt yn ystod yr ysgariad. Gelwir yr unigolyn sy’n gweithredu ar eu rhan yn ‘cyfaill cyfreitha’. Gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind agos neu’n rhywun arall sy’n gallu eu cynrychioli.
Nid oes gan eich gŵr neu’ch gwraig gyfaill cyfreitha
Os nad oes rhywun addas sy’n fodlon bod yn gyfaill cyfreitha iddynt, gallwch wneud cais i’r llys benodi cyfaill cyfreitha ar eu cyfer.
Gall y Cyfreithiwr Swyddogol gytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu’ch gwraig pan nad oes rhywun arall i wneud hyn (‘cyfaill cyfreitha fel dewis olaf’).
Sut i wneud cais
-
Gwiriwch nad oes rhywun arall sy’n addas neu sy’n fodlon gweithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu’ch gwraig.
-
Gwiriwch fod arian ar gael ar gyfer unrhyw gostau bydd rhaid i’r Cyfreithiwr Swyddogol eu talu. Efallai bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn gallu cael cymorth cyfreithiol.
-
Rhowch fanylion meddyg/gweithiwr proffesiynol meddygol arall eich gŵr neu’ch gwraig i’r llys, fel y gellir gofyn am dystysgrif galluedd.
Os bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn cytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu wraig, byddwch yn gallu gwneud cais am ysgariad.
Cysylltu â staff y Cyfreithiwr Swyddogol
Anfonwch e-bost neu ffoniwch y tîm cyfraith breifat os oes gennych ymholiad am ysgaru rhywun sydd heb alluedd meddyliol. Ni allant ateb cwestiynau cyffredinol am ysgaru.
Y Cyfreithiwr Swyddogol - tîm cyfraith deulu breifat
ospt.dsm@offsol.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 020 3681 2754
Gwybodaeth am brisiau galwadau