Dod yn unig fasnachwr

Skip contents

Beth yw unig fasnachwr

Mae unig fasnachwr yn fath o fusnes. Gallwch fod yn unig fasnachwr a dyna’ch unig swydd, neu gallwch fod yn unig fasnachwr a gweithio am gyflogwr ar yr un pryd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch fod yn unig fasnachwr os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • rydych yn rhedeg eich busnes eich hun fel unigolyn
  • rydych yn gweithio i chi’ch hun

Mae bod yn unig fasnachwr yn wahanol i berchen ar gwmni cyfyngedig neu fod mewn partneriaeth (yn agor tudalen Saesneg).