main logo

CYFRIF DYSGU PERSONOL (PLA)

PLA

Mae’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn ceisio darparu cefnogaeth am ddim* i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith ar lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth.

*Os ydych yn hŷn na 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth  (gan gynnwys mewn perygl o gael eu diswyddo a charcharorion sy’n cael eu rhyddhau am y dydd) ac yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,371 y flwyddyn, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych i gael y cyfle i astudio cyrsiau penodol yn rhan-amser.

Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu wedi’i ariannu’n llawn*. Byddwch yn gallu cael sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa bresennol.

Mae pob un o’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch weld y rhestr lawn o gyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yng Ngholeg Cambria ar y dudalen cyrsiau.

Siaradwch â'r Tîm

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006