Ariannu Prentisiaethau
Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
Cyllid Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Datblygwch eich gweithlu gyda rhaglenni Prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn.
Ydych chi am wella sgiliau eich gweithlu presennol? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi elwa o newidiadau diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru? Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu Cymru ‘Llewyrchus a Diogel’, gall gweithwyr o unrhyw oedran a hyd gwasanaeth elwa ar y rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn.
Os ydych chi eisiau ehangu eich busnes, datblygu gweithlu medrus, lleihau costau hyfforddi a recriwtio, heddiw ydy’r amser gorau.
Cysylltwch â thîm Cambria ar gyfer Busnes am ragor o wybodaeth ar 0300 30 30 006.
Taliad cymell prentisiaid ar gyfer cyflogi pobl anabl
I helpu busnesau i recriwtio prentis sy’n anabl, mae Llywodraeth Cymru sy’n cynnig taliadau cymhelliant tan 31 Mawrth 2024.
Dyma fanylion y taliadau cymhelliant:
- Bydd cyflogwyr sy’n recriwtio prentis anable o 1 Ebrill 2022 neu’n ddiweddarach yn gymwys i gael taliad cymhelliant o £2,000 fesul dysgwr
- Cyfyngir taliadau i 10 dysgwr anabl fesul busnes
- Mae taliadau cymhelliant yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5 yn unig ac nid ydynt yn berthnasol i brentisiaethau gradd.
Ni allwch wneud cais os:
- Ydych chi’n recriwtio ar gontract dim oriau
- Ydych chi’n defnyddio model prentisiaeth a rennir
- Nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl iddo gael ei recriwtio.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch dîm Cambria ar gyfer Busnes ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk.
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau Cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes trwy anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau cymhwysedd.
Partneriaid
Prentisiaethau
.
Llywodraeth Cymru
.
Gwybodaeth am Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
Ydy Fy Musnes I'n yn Gymwys Ar Gyfer Cyllid Cyflogwr Sgiliau Gogledd Cymru?
- Masnachwyr unigol, busnesau micro, bach, canolig a mawr
- Wedi’i gofrestru yng Ngogledd Cymru
- Wedi cofrestru at ddibenion TAW
- Cadarnhad gan CThEM (hunangyflogedig).
Pa Gymorth Fydda' i'n ei Gael?
Gallwch gael hyd at 100% o hyfforddiant â chymhorthdal ar gyfer eich gweithlu (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol).
Bydd y tîm Sgiliau Cyflogwyr yn nodi’r bylchau sgiliau a chyfleoedd hyfforddi yn eich tîm. Byddwn yn sicrhau bod y cyrsiau yn cyd-fynd orau i’ch busnes, wedi’u dewis i ddod â’r gorau allan o’ch tîm.
Ydy Fy Ngweithiwr I'n Gymwys Ar Gyfer Cyllid Cyflogwyr Sgiliau Gogledd Cymru?
- O leiaf 16 oed
- Gweithiwr cyflogedig mewn cwmni cymwys
- Ddim yn cael unrhyw gyllid arall gan y llywodraeth ar gyfer yr un hyfforddiant
- Yr hawl i fyw a gweithio yn y DU
- Gall meini prawf cymhwysedd eraill fod yn berthnasol.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfle i hyfforddi a datblygu gweithlu medrus a dawnus yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru gyda’r prosiect yn ariannu hyd at 80% o’r costau hyfforddi.
Rhaid i fusnesau fodloni’r meini prawf canlynol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn:
- Bod yn rhan o’r diwydiant cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu
- Wedi eich lleoli yng Nghymru
- Gallu dangos elw clir ar fuddsoddiad
Os bodlonir yr holl feini prawf, bydd busnesau’n gymwys i gael 80% o gyllid (ar gyfer busnesau sy’n cyflogi 1-49 o staff) neu gyllid o 50% (ar gyfer busnesau sy’n cyflogi 50+ o staff) tuag at gost cyrsiau hyfforddi penodol o fewn y sectorau canlynol;
- Arwain a Rheoli
- Marchnata a Gwerthiannau
- Cynhyrchu a Gweithgynhyrchu
- Cydymffurfiaeth a Statudol ar gyfer Twf
I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau sy’n cael eu cynnwys yn y cyllid cysylltwch â employers@cambria.ac.uk
I wneud cais ar gyfer y cyllid, ewch i https://menterabusnes.cymru/sgiliau-bwyd-a-diod-cymru/ a chwblhewch y ffurflen gofrestru gyda Menter a Busnes. Pan maent wedi cael y ffurflen a’i hadolygu byddant yn cysylltu â chi i gwblhau’r Diagnostig Sgiliau i adnabod bylchau sgiliau a chreu cynllun gweithredu hyfforddiant.
Os hoffech chi drafod y prosiect cyllid yn rhagor cysylltwch â skills-wales@menterabusnes.co.uk neu os hoffech chi ddarganfod rhagor am y cyrsiau nesaf sydd ar gael, costau a’r broses gofrestru cysylltwch â ni ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes ar employers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau eich cymhwysedd.
Partneriaid
Prentisiaethau
.
Llywodraeth Cymru
.