Apêl i chwilota am drysorau ar ôl darganfod Beiblau 400 oed

Mari James gyda beibl hynafolFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mari James gydag un o'r beiblau hynafol

  • Cyhoeddwyd

Weithiau mae 'na drysorau yn gallu llechu yng ngwaelod cypyrddau - yn enwedig efallai mewn adeiladau sydd yn ganrifoedd oed...

Dyna pam mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi gwneud apêl o'r newydd i eglwysi chwilota am eitemau gwerthfawr, wedi i ddau Feibl 400 oed gael eu darganfod yn ddiweddar.

Yn sgil apêl Gwaelod y Cwpwrdd fe ddaeth yr Esgobaeth o hyd i Feiblau'r Esgob Parry o 1620 - un mewn festri eglwys wledig a'r llall mewn bag siopa plastig!

Dywedodd Mari James, swyddog datblygu llyfrgell Cadeirlan Tyddewi, eu bod nawr yn apelio unwaith eto ar eglwysi a sefydliadau i "dyrchu yng ngwaelod eu cypyrddau am hen Feiblau neu lyfrau gweddi" rhag ofn bod mwy o drysorau heb eu darganfod.

"Gyda 'hen' rydyn ni’n golygu 300 neu 400 mlwydd oed, pan gynhyrchwyd Beiblau a Llyfrau Gweddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf," meddai.

Darganfod Beibl prin 1620

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell y Gadeirlan
Disgrifiad o’r llun,

Beibl Merthyr 1620 gafodd ei ddarganfod yn ddiweddar, gyda Beibl yn iaith Groeg wrth ei ochr, yn cael eu harddangos yn llyfrgell y gadeirlan. Fe gafodd y ddau eu defnyddio yng ngwasanaeth gorseddu (enthronement) Esgob Tyddewi eleni

Un o'r Beiblau sydd eisoes wedi dod i law ac yn cael ei arddangos yn llyfrgell y Gadeirlan yw Beibl Esgob Parry o blwyf Merthyr, ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

"Roedd Esgob Tyddewi Y Gwir Barchedig Dorrien Davies yn ymweld ag Eglwys Sant Martin ar y pryd," meddai Ms James.

"O ran golwg roedd yr Esgob o'r farn mai Beibl prin 1620 oedd wedi ei ganfod a dyna hefyd oedd barn arbenigwyr y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd y clawr a'r cefn mewn cyflwr da iawn."

Ffynhonnell y llun, Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Disgrifiad o’r llun,

Mari James, swyddog datblygu Llyfrgell Cadeirlan Tyddewi, sy'n apelio i bobl "dyrchu yng ngwaelod eu cypyrddau" am drysorau coll

Dywedodd yr Esgob ei fod wrth ei fodd gyda'r canfyddiad a bod y Beibl mewn cyflwr cystal.

"Rwy'n galw ar bob eglwys ar draws Esgobaeth Tyddewi i edrych ar waelod y cwpwrdd, i weld pa drysorau addoli llyfrau dros y canrifoedd sydd ganddyn nhw o hyd," meddai.

"Ac annog pawb i gysylltu â Llyfrgell y Gadeirlan i helpu i adnabod y Beiblau, llyfrau gweddi yn ogystal â cheisio cyngor ar eu gofal a'u cadwraeth."

Hen Feibl mewn bag siopa plastig

Yr Esgob William Morgan oedd y cyntaf i gyfieithu'r Beibl i Gymraeg yn 1588, gyda'r Esgob Parry yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig. Credir fod tua 900 o'r rhain wedi eu cyhoeddi yn y cyfnod dan sylw.

Mae'r Beibl o Eglwys Sant Martin yn un o bedwar o Feiblau Esgob Parry sydd yng ngofal Llyfrgell y Gadeirlan.

Yr ail gafodd ei ganfod yn ddiweddar oedd un tra bod disgyblion Ysgol Hendy Gwyn ar Daf yn ymweld â'r Gadeirlan.

"Roedd athrawon wedi trefnu trip ysgol i'r llyfrgell am eu bod yn astudio cyfnod y Tuduriaid ac wedi dod â hen Feibl o'r ysgol mewn bag siopa plastig rhag ofn ei fod o werth. A dyna'n wir ddigwyddodd, un arall o Feiblau 1620," meddai Mari James.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Ynghyd â hen Feiblau, mae Esgobaeth Tyddewi hefyd yn galw ar eglwysi i chwilio am hen lyfrau gweddi a dogfennau a all fod ar goll o'r casgliad

"Yn ogystal ag edrych am hen lyfrau o bwys rydym hefyd am i bobl wylio ac edrych am unrhyw ddogfennau o bwys.

"Nid yw wastad yn amlwg pa mor bwysig yw rhai dogfennau. Mae'r llyfrgell nawr hefyd yn gartref i hen weddïau gwerthfawr.

"Yn eu plith gweddi o gyfnod Charles II yn dilyn cyfnod Oliver Cromwell. Mae gweddi sy'n cael ei hadnabod fel gweddi 'Brad y powdr gwyn' yn cyfeirio at gynllwyn ffaeledig Guto Ffowc ar 5 Tachwedd.

"Yn hanesyddol mae'n ddiddorol, fod gweddïau o'r pryd yn dangos fod yna bresenoldeb cefnogwyr brenhinol yng Nghymru, ond mae e hefyd yn dangos pa mor bwysig oedd y Gymraeg er mwyn i'r awdurdodau allu cyfathrebu gyda'r werin bobl."

Gwaith addasu er mwyn trysori

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r llyfrgell sydd â chasgliad o 7,000 o eitemau yn parhau ar agor yn ystod y gwaith o addasu’r safle

Mae Llyfrgell y Gadeirlan wedi ei gartrefu o fewn yr eglwys gyda'r rhan yma o'r adeilad yn dyddio nôl i 1340.

Yn gartref i dros 7,000 o eitemau a hen drysorau, hwn yw'r unig gadeirlan yng Nghymru sydd â'i llyfrgell ei hun.

Yn ogystal â gwneud apêl am hen lyfrau mae apêl Gwaelod y Cwpwrdd yn tynnu sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i wella cyfleusterau storio ac i sicrhau amgylchedd y llyfrgell er mwyn cadw'r eitemau'n ddiogel ac yn y cyflwr gorau posib.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o hen drysorau i'w canfod yn y Llyfrgell, felly mae gwaith addasu yn angenrheidiol er mwyn eu cadw yn y cyflwr gorau posib

Yn ystod y gwaith mae'r llyfrgell yn parhau ar agor i'r cyhoedd a'r rhai sydd am wneud gwaith ymchwil.

"Rydym wedi gorfod cael caniatâd arbennig er mwyn tyllu tu ôl i'r waliau hynafol rhag ofn ein bod yn dinistrio unrhyw beth o bwys a all fod yn cuddio tu ôl iddynt," meddai Mari James.

"Roedd archeolegwyr yn rhan o'r gwaith pwysig hwn cyn i unrhyw silffoedd newydd gael eu gosod.

"Ond nawr rydym wedi sicrhau'r caniatâd hwnnw ac mae modd symud ymlaen gyda'r prosiect."

Pynciau cysylltiedig