Oes cynrychiolaeth LHDTC+ ddigonol yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mewn prosiect ar y cyd â Gorwelion mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda rhai o artistiaid cyfoes y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i drafod rhai o'r pynciau sy'n bwysig i'w hunaniaeth nhw a'u proses greadigol.
Siaradom â rhai o'r artistiaid sy'n chwifio'r faner dros bobl LHDTC+ yng Nghymru i holi sut maen nhw'n gweld y gynrychiolaeth yn y maes maen nhw'n rhan ohono, ac yn benodol yn y sîn Gymraeg ei hiaith.
Mae Ian Cottrell yn wyneb cyfarwydd i lawer fel aelod o'r band Diffiniad, cyn-gyflwynydd teledu a fel DJ. Yn y deng mlynedd ar hugain y mae o wedi bod yn rhan o'r byd cerddoriaeth, dydy o ddim wedi gweld llawer o gynnydd yng nghynrychiolaeth LHDTC+ yn Gymraeg.
"O ran cerddoriaeth Gymraeg ei hiaith, mae'r gymuned LHDT+, dw i'n meddwl, dal ddim yn cael ei chynrychioli. Dw i'n gallu meddwl am gwpl o bobl eraill oedd mewn bandiau, a dw i'n siŵr 'san nhw'm yn meindio fi'n enwi nhw. Mae Betsan (Haf Evans) oedd yn Alcatraz, a Nia Medi oedd yn canu efo Clinigol, a roedd y brodyr yn Clinigol yn rhan o'r gymuned LHDT hefyd. A dyna'r unig bobl dw i'n gallu meddwl amdanyn nhw."
Ond, yw'r tro'r trai yn newid? Gydag artistiaid, rhai newydd ac wedi'u sefydlu, yn mynegi eu hunain gyda hyder a balchder fwy a mwy, y cwestiwn sy'n codi yw ai tuedd i gymryd yn ganiataol bod person yn straight yw'r hyn sy'n rhoi'r argraff nad yw'r artisitiaid yn bodoli yn y sîn?
Mae Izzy Rabey, cynhyrchydd creadigol a rapiwr, yn meddwl mai normaleiddio straeon cwiar yn y gwaith sy'n cael ei ryddhau yw'r nod: "Dw i'n credu bod angen mwy o bobl i greu gwaith a deunydd queer lle dyw'r naratif ddim ynglŷn â rhywun yn dod mas. Fi mewn perthynas 'da menyw, a fi'n canu a rapio ynglŷn â hynny. Mae hwnna jest yn rhan o bywyd fi, a fi'n credu ni angen normaleiddio hynny."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ysgrifenodd Betsan Haf Evans y gân hon am gwrdd â'i gwraig ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2017. Ai hon yw'r gân cwiar gyntaf o'i math yn Gymraeg?
Mae'r gynulleidfa yno, fel mae Ian Cottrell yn dweud: "Mae 'na bobl bendant yn mwynhau'r gerddoriaeth ac yn mynd i'r gigs, ac yn ffrydio'r gerddoriaeth ac ar Twitter ac Instagram. Dw i'n gwybod hynna o fod yn DJ fy hun."
"'Naethon ni ddim creu [Dirty Pop] i fod yn noson oedd yn apelio i gynulleidfa LHDT+. 'Naethon ni wneud y noson oedden ni eisiau ei gwneud achos oedden ni eisiau chwarae'r gerddoriaeth oedden ni'n hoffi. Ac fel mae'n digwydd, 'naeth y gymuned yna ffeindio ni.
"Dw i'n meddwl, be' sydd wedi digwydd trwy hwnna ydy bod pobl sydd ddim yn rhan o'r gymuned [LHDT+] wedi clywed y gerddoriaeth, ac wedi agor eu llygaid nhw i weld y gymuned yma mewn lleoliad sydd ddim yn rhywle maen nhw wedi cael eu rhoi i un ochr ac wedi gorfod cwrdd oherwydd pwy ydyn nhw."
Ym marn Catrin Morris o'r prosiect Kathod, sef grŵp o fenywod creadigol Cymraeg, mae dal angen gwneud gwaith i roi'r platfform diogel i artistiaid LHDT+: "Mae lleoliadau yn rhywbeth pwysig achos 'dych chi ddim yn teimlo'n saff weithiau mewn lleoliadau sy'n cynnal gigs - ac mae hwnna'n cymryd mewn yr holl beth fel menyw a fel person LHDT+.
"Mae 'na lefydd fysen i byth yn mynd. Dw i'n pasio fel menyw syth, ond rhaid i chi feddwl am y bobl sydd ddim falle yn pasio'n syth ac yn ffitio'r heteronormative. Lle maen nhw'n mynd i ffendio rhywle saff i wylio gigs neu chwarae gigs fel person LHDT+?"
Oes angen i'r cerddorion sy'n "pasio" fod yn fwy uchel eu cloch am y peth er mwyn cynrychioli eu hunain? Mae cynifer o bobl yn disgwyl i unigolion wneud datganiad mawr am eu rhywioldeb a dod allan y dyddiau hyn, mae Izzy yn awyddus i ni roi'r gorau i ganolbwyntio ar hynny a dechrau clywed y straeon bob dydd am fywydau unigolion.
Dywedodd: "'Dyw e ddim fel, let's have loads of coming out stories, Actually, gawn ni jest gweld pobl queer jest yn bodoli?"
Meddai Izzy Rabey: "Fi wedi bod mas ers o'n i'n bymtheg mlwydd oed, so i fi mae e jyst yn rhan o pwy ydw i, a dw i wastad wedi bod yn agored ynglŷn â dyna pwy ydw i ond dw i'n gwybod mae fe dal yn rili anodd i lot o bobl. Fi'n credu bo' ni'n meddwl ein bod ni mewn amser mewn hanes ble mae'n haws i bawb fod allan ond fi dal yn meddwl mae e dal yn rili anodd."
Yr wythnos ddiwethaf rhyddhaodd y cerddor o'r band Y Reu, Lloyd Steele, ei sengl gyntaf 'Mwgwd' sy'n sôn am ddod yn gyfforddus yn dy groen dy hun.
Wrth rannu'r fideo i'r gân ar ei dudalen Facebook fe ddywedodd Lloyd: "Neshi sgwennu'r gân 'ma i drio mynegi pa mor falch ydwi o'n hun ar ôl sdryglo am flynyddoedd i gael hyd i fy hunaniaeth ac i fod yn gyfforddus yn fy nghroen fy hun. So ma'n deimlad reit adfywiol i gael rhannu rwbath dwi 'di creu sydd mor bersonol a sydd wedi gael gymaint o gefnogaeth."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r gwaith a'r gefnogaeth yna, dyna sy'n amlwg yn y tri phrofiad sy'n cael ei drafod yma. Felly pam nad yw'r cerddorion hyn yn amlwg i'r lleygwr ar y stryd?
Dywedodd Izzy: "Fi'n credu bod angen i ni wneud loads mwy o waith o ran pwy sy'n cael eu platfformo, y lleisiau. 'Dan ni angen gwneud mwy o ran cael y lleisiau 'na i mewn i institutions, a sefydliadau a'r sianeli yma lle mae pobl yn cael mynegi eu hunain yn greadigol.
"Dw i'n credu ti wastad yn gallu cael mwy ohonon ni."
Hefyd o ddiddordeb