Os ydych eisiau cymryd cyfrifoldeb am eich dyfodol eich hun, bod gennych syniad busnes, sgiliau sgiliau, neu ddiben cymdeithasol yr hoffech ei archwilio, gall dechrau eich busnes eich hun roi'r rhyddid i chi fynegi eich creadigrwydd a chreu eich tynged eich hun.
Ydych chi'n awyddus i fod yn llawrydd, dechrau busnes hobi rhan-amser neu hefo cynnyrch neu gwasanaeth newydd arloesol i'w lansio? Mynnwch gyngor a chefnogaeth i siarad drwy'r prosesau, yr heriau, ac adeiladu eich gwybodaeth a'ch rhwydweithiau. Gall y camau hyn ddyblu eich siawns o greu menter fusnes gynaliadwy.
Os ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun a'ch bod yn 25 oed neu'n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.
Yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru fel rhan o wasanaeth Busnes Cymru gallwn ddarparu'r cymorth, y wybodaeth a'r cyngor cywir i'ch helpu i ddod yn hunangyflogedig neu ddechrau eich busnes eich hun:
- Clywed gan entrepreneuriaid eraill yng Nghymru sy'n rhannu eu straeon. Dysgwch sut beth yw dechrau eich busnes eich hun, drwy weithdai a phrofiadau dan arweiniad entrepreneuriaid. Gall hyn eich helpu i archwilio menter a datblygu eich syniadau busnes
- Archwiliwch fwy amdanoch chi'ch hun gyda chanllawiau digidol, offer a modiwlau dysgu defnyddiol i wella eich gwybodaeth fusnes
- Cysylltwch â'n rhwydwaith o hyrwyddwyr menter lleol ym mhob Coleg a Phrifysgol ledled Cymru. Gallant eich helpu i gymryd rhan mewn profiadau menter, cefnogi eich uchelgeisiau a throsglwyddo o addysg i hunangyflogaeth
- Mynediad i weminarau busnes a chymorth dwys i ddatblygu eich syniad busnes a chynllunio ar gyfer eich busnes. Mae hyn yn cynnwys cynghorydd busnes un-i-un pwrpasol a mentor entrepreneur a all eich cefnogi i sefydlu eich busnes
- Gweithiwch gyda'ch cynghorydd am gymorth parhaus gan Busnes Cymru i gael mynediad at fuddsoddiad, benthyciadau cychwyn a gwasanaethau cynghori ar gyfer eich holl anghenion cychwynnol o ddelio â gwaith papur, cyflogi pobl, rheolaeth ariannol neu alluoedd digidol a mentor entrepreneur a all eich cefnogi i sefydlu eich busnes
- Dysgu gan gymheiriaid drwy gymuned o entrepreneuriaid ifanc a'n rhwydwaith hybiau menter
- Ymunwch ag entrepreneuriaid ifanc o'r un anian ar ein sianeli Facebook, Twitter ac Instagram
Gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i ddysgu am fusnes, datblygu eich syniadau a phenderfynu os yw rhedeg eich busnes eich hun yn iawn i chi.
I gael cymorth i'ch helpu i droi eich syniad busnes yn realiti, ewch i Syniadau Mawr Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Warant y Person Ifanc ar gyfer hunangyflogaeth.
Archwilio
Gweld manteision ac anfanteision cychwyn busnes a ble i ddod o hyd i gefnogaeth i sefydlu busnes.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith