Bu derbyn cymorth am yrfa yn help i Kim ymgartrefu yn ei bywyd newydd yng ngorllewin Cymru.
Cam mawr
Symudodd Kim a'i theulu i Sir Benfro yn 2022. Yn wreiddiol, roedden nhw wedi cynllunio bod Kim, 57 oed, yn aros gartref, ond sylweddolodd hi'n fuan fod ganddi uchelgeisiau eraill.
Eglurodd Kim: “Roeddwn i eisiau mynd allan a chymysgu mwy â phobl. Roeddwn i eisiau rhywbeth yn y gymuned a oedd yn ddiddorol ac â rhywfaint o ymreolaeth.
“Sylweddolais yn fuan nad oedd gennyf unrhyw syniad ble i ddechrau.”
Gofyn am gymorth
Ar ôl ffonio ei chanolfan waith leol, rhoddwyd Kim mewn cysylltiad â Gyrfa Cymru, a drefnodd apwyntiad iddi gyda Lara, cynghorydd Gyrfa Cymru'n Gweithio.
Yn ystod sawl apwyntiad, cafodd Kim gymorth gan Lara i archwilio gwahanol swyddi a chyrsiau yn ogystal â derbyn cefnogaeth gyda’i CV, ceisiadau swyddi, a chyfweliadau wrth iddynt ddigwydd.
Dywedodd Kim: “Fe wnaeth Lara fy helpu i ddeall yn union beth roeddwn i’n edrych amdano. Ar ôl symud a bod i ffwrdd oddi wrth bawb roeddwn i'n eu hadnabod, roedd yn braf cael rhywun cyfeillgar i droi ato. “Yn bennaf oll, rhoddodd hyn hyder i mi.”
Swydd newydd ar gyfer cartref newydd
Yn dilyn sgwrs yn ei siop leol, daeth Kim i wybod am swydd wag yn y ganolfan gymunedol.
Gyda hyder newydd a chefnogaeth gan Lara, ymgeisiodd amdani a bu'n llwyddiannus.
Dywedodd Kim: “Rwy’n gweithio ar lawer o brosiectau gwahanol, ac theimlaf fy mod yn cael fy nhadnabod a’m gwerthfawrogi. Mae'n sefydliad elusennol felly dwi'n teimlaf fy mod i’n rhoi rhywbeth yn ôl.”
Cyngor i eraill
Hoffai Kim annog eraill i ofyn am gymorth gan Gyrfa Cymru: “Mae’n rhywbeth mawr i newid eich amgylchiadau a mynd yn ôl i'r gwaith, boed hynny ar ôl symud cartref neu ar ôl cael plant neu oherwydd unrhyw sefyllfa arall.
“Gall derbyn cefnogaeth gan rywun fel Lara fod yn anhygoel a gwneud byd o wahaniaeth.
“Rwy’n sylweddoli nawr nad oedd angen i mi boeni. Roedd y gallu a’r hyder yno – y cyfan oedd ei angen arnaf oedd cymorth i ddod o hyd iddo.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.