Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Angharad

Angharad

Wnaiff Angharad ddim gadael i ddiswyddiad amharu ar ei dyheadau gyrfa.

Datblygu gyrfa mewn marchnata

Ers graddio o Brifysgol De Cymru yn 2015, mae Angharad, sy’n 27 oed ac yn hanu o Bort Talbot, wedi llwyddo i gael amrywiaeth o swyddi’n ymwneud â’i chymwysterau.

Dywed Angharad, sydd wedi ei chofrestru’n ddall “Mae gen i radd mewn newyddiaduraeth ac arweiniodd hynny at ddilyn cyrsiau ychwanegol mewn marchnata digidol. Rwy'n mwynhau gweithio yn y maes marchnata yn fawr ac rwy'n frwdfrydig ynglŷn â datblygu fy ngyrfa yn y diwydiant”.

Oherwydd y dirywiad economaidd, collodd Angharad ei swydd fel swyddog cyfrif ym mis Gorffennaf 2020, lle y bu'n ymwneud â marchnata digidol a gweithgaredd chwilio â thâl i rai o gwmnïau mawr y DU.

Cael cefnogaeth gan Cymru’n Gweithio

Ar ôl colli ei swydd, cafodd Angharad ei chynghori gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) i gysylltu â Cymru’n Gweithio gan eu bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael ar ôl colli swydd. 

Gan weithio gyda’r cynghorydd gyrfa, John Parke o dîm Gyrfa Cymru Abertawe, trafododd y ddau ddyheadau gwaith Angharad. Nodwyd y byddai rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol yn gwella portffolio gwaith Angharad ac yn ei chefnogi wrth chwilio am swydd.

Awgrymodd John gwrs arwain a rheoli gyda darparwr hyfforddiant lleol a byddai cyllid drwy'r rhaglen ReAct yn caniatáu i Angharad ddilyn y cwrs.

Dywed Angharad “roedd y cwrs yn wych! Mae wedi ehangu fy ngwybodaeth ac mae ganddo'r potensial i'm helpu i arallgyfeirio i rolau marchnata eraill.

“Rwy'n ymgeisio am swyddi ac mae'n dda gallu cynnwys y cwrs newydd ar fy CV a ffurflenni cais. Mae'n dangos fy mod i'n awyddus i barhau i ddysgu i ddatblygu fy ngyrfa”.

Os ydych chi fel Angharad, wedi colli eich swydd neu os ydych chi’n anabl ac angen cymorth arbenigol, yna cysylltwch â ni.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Cymorth arbenigol

Dewch o hyd i gymorth arbenigol i’ch helpu chi fynd yn ôl i’r gwaith os ydych yn anabl.

Siarad â chynghorydd gyrfa

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu a ni