ANNIBYNNOL. DIDUEDD. ARLOESOL. 
I BAWB.
 
Dyma brif feysydd y BBC

  • ADLONIANT

    Strictly Come Dancing yw’r sioe adloniant fwyaf poblogaidd ar deledu ym Mhrydain, gyda dros 19 o gyfresi hyd yma. Cyrhaeddodd cyfres 2021 gerrig milltir newydd o ran cynhwysiant anabledd a rhywioldeb, gan ddod â mwy o gynrychiolaeth nag erioed i’r lawr dawnsio.

  • Amol Rajan, darlledwr radio’r BBC.

    NEWYDDION

    Mae’r BBC yn darparu newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o’r radd flaenaf. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y DU ac yn rhyngwladol fel darlledwr. Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r bygythiad o gamwybodaeth.

  • David Attenborough, darlledwr y BBC.

    FFEITHIOL

    Green Planet yw ein cyfres natur nodedig gan Syr David Attenborough. Cafodd ei gwylio gan 30% o’r DU – 18.5m o bobl. Roedd yn annog cynulleidfaoedd i werthfawrogi’r amgylchedd a’u hysbrydoli i weithredu. Mae ganddi sgôr IMDB o 9.2 allan o 10. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.

  • Clara Amfo, darlledwr radio’r BBC.

    SAIN

    Mae gennym 10 gorsaf radio rhwydwaith yn y DU, 43 gorsaf ranbarthol, a’r World Service. Yn y DU, mae 62% o oedolion yn gwrando ar Radio'r BBC bob wythnos. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.5bn gwaith y llynedd. Rydym yn darparu’r rhaglenni cerddoriaeth fyw orau yn y DU.

Pwrpas a Strwythur

PURPOSE AND STRUCTURE

Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. 

Rydyn ni’n gwthio ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn cynhyrchu cynnwys mae pobl yn ei garu. 

Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.

GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.

RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC >

BBC STUDIOS

BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.

RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS >

FUTURE OF BBC/ TIM DAVIE QUOTE

“Mae’r BBC yn rym cadarnhaol i’r DU a’r byd. Rydym yn ddiduedd, yn arloesol ac yn greadigol, ac rydym bob amser yn edrych tua’r dyfodol. 

Rydyn ni ar gyfer pawb, sy’n golygu bod angen i ni gael y bobl orau o bob cefndir i weithio i ni wrth i ni ddatblygu i fod yn sefydliad cyfryngau sy’n gwbl ddigidol yn gyntaf.”

– Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y BBC

Clywed gan rhai o’n staff

  • Jemma Nash, un o weithwyr y BBC.

    Jemma Nash

    “Mae gweithio ochr yn ochr â’r BBC yn ystod fy mhrentisiaeth wedi bod yn anhygoel. Mae’r tîm a’r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw wedi rhoi llawer o anogaeth, ac rwy’n teimlo fy mod wedi cael llawer o gefnogaeth.”
    Jemma Nash
    ⁠— Prentis Marchnata Digidol, Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC

  • Orlando Turner, un o weithwyr BBC Studios.

    Orlando Turner

    “Rydw i wrth fy modd bod fy swydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a rhwydweithio â phobl anhygoel a dysgu gan y dalent orau yn y diwydiant.”
    Orlando Turner
    ⁠— Peiriannydd Systemau AV, BBC Studios

  • Un o weithwyr y BBC, Natalie Preston a’i chi cymorth, Faye.

    Natalie Preston a Faye

    "Rydw i’n gallu anghofio fy nghyfyngiadau corfforol yn y BBC oherwydd rydw i’n cael fy ystyried yn gydweithiwr ac yn aelod o dîm cyn fy mod i’n cael fy ystyried yn anabl.”
    Natalie Preston a Faye
    ⁠— Ymchwilydd, Rhaglenni dogfen

Ein Gwerthoedd

YMDDIRIEDAETH

rydyn ni’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest.

CYNULLEIDFAOEDD

sydd wrth galon popeth a wnawn.

PARCHU

ein gilydd – rydyn ni’n garedig ac rydyn ni’n hyrwyddo cynhwysiant.

CREADIGRWYDD

yw curiad calon ein sefydliad.

UN BBC

rydyn ni’n cydweithio, yn dysgu ac yn tyfu gyda’n gilydd.

ATEBOLRWYDD

i gyflawni gwaith o’r safon uchaf.

Carwsél Gwobrau

LLEOLIADAU

Mae’r BBC yn sefydliad Prydeinig byd-eang. Gyda swyddfeydd, canolfannau cynhyrchu a stiwdios ledled y DU, mae llawer o gyfleoedd i weithio i’r BBC yn eich cymuned leol.  Yn fyd-eang, ar draws Newyddion a BBC Studios, rydym yn gweithredu mewn dinasoedd mewn 70 o wledydd.

Does dim modd i ddarllenwyr sgrin ddarllen y map canlynol mae modd chwilio ynddo.

Dilynwch y ddolen hon i fynd i'n tudalen Chwilio am Swyddi i chwilio'n haws drwy'r swyddi sydd ar gael.

AI DYMA’R BBC I CHI?

ANNIBYNNOL. DIDUEDD. ARLOESOL. I BAWB.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD

Ni yw’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw yn y byd, gan greu cynnwys unigryw o safon fyd-eang bob dydd y mae miliynau o bobl yn y DU a ledled y byd yn ei garu ac yn ymddiried ynddo.

ADLONIANT

Strictly Come Dancing yw’r sioe adloniant fwyaf poblogaidd ar deledu ym Mhrydain, gyda dros 19 o gyfresi hyd yma. Cyrhaeddodd cyfres 2021 gerrig milltir newydd o ran cynhwysiant anabledd a rhywioldeb, gan ddod â mwy o gynrychiolaeth nag erioed i’r lawr dawnsio.

NEWYDDION

Mae’r BBC yn darparu lefel ddiguro o newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y wlad hon a’r darlledwr newyddion rhyngwladol mwyaf dibynadwy. Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig yn helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad a ddaw yn sgil camwybodaeth.

FFEITHIOL

Green Planet yw ein cyfres natur nodedig a gafodd ei chreu gyda Syr David Attenborough, a chafodd ei gwylio gan 30% o’r DU – 18.5m o bobl. Roedd yn annog cynulleidfaoedd i werthfawrogi’r amgylchedd yn fwy a’u hysbrydoli i weithredu. Ac mae ganddi sgôr IMDB o 9.2 allan o 10. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.

SAIN

Mae gennym 10 rhwydwaith radio ledled y DU, 43 gorsaf ranbarthol a lleol, a’r gwasanaeth World Service ar draws y byd. Yn y DU, mae 62% o oedolion yn gwrando ar Radio’r BBC bob wythnos. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.5 bn gwaith y llynedd. Ac rydym yn darparu’r rhaglenni cerddoriaeth fyw orau yn y DU

PURPOSE AND STRUCTURE

Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. 

Rydyn ni’n gwthio ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn cynhyrchu cynnwys mae pobl yn ei garu. 

Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.

GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.

RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

BBC STUDIOS

BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.

RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS

“I LOVE THAT MY JOB HAS GIVEN ME THE OPPORTUNITY TO MEET AND NETWORK WITH SOME AMAZING PEOPLE AND LEARN FROM THE BEST TALENT IN THE INDUSTRY.”

“Rydw i wrth fy modd bod fy swydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a rhwydweithio â phobl anhygoel a dysgu gan y dalent orau yn y diwydiant.”
Orlando Turner
Peiriannydd Systemau AV, BBC Studios

“WORKING ALONGSIDE THE BBC DURING MY APPRENTICESHIP HAS BEEN AMAZING. THE TEAM AND PEOPLE I HAVE MET HAVE BEEN SO COMFORTING AND I FEEL VERY SUPPORTED.”

“Mae gweithio ochr yn ochr â’r BBC yn ystod fy mhrentisiaeth wedi bod yn anhygoel. Mae’r tîm a’r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw wedi rhoi llawer o anogaeth, ac rwy’n teimlo fy mod wedi cael llawer o gefnogaeth.”
Jemma Nash
Prentis Marchnata Digidol, Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC