CAM 1 – CAIS AR-LEIN
Ffurflen gais yw cam cyntaf y broses ymgeisio. Gofynnir i chi lenwi gwybodaeth amdanoch eich hun i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, a'ch cymhelliant dros wneud cais. Cyn i chi ddechrau eich cais, treuliwch amser yn ymchwilio i’r cynllun a’r rôl rydych chi’n teimlo sydd fwyaf addas i chi ar gyfer y cam rydych chi arno yn nhaith eich gyrfa.
CAM 2 – PRAWF AR-LEIN
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun rydych chi wedi gwneud cais amdano, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad rhyngweithiol byr. Gallai hyn gynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar gryfderau, ymarferion barnu sefyllfaol, neu dasgau codio yn dibynnu ar ba rôl rydych chi’n gwneud cais amdani. Cyn eich asesiad, byddwch yn cael amser i ymarfer rhai cwestiynau.
CAM 3 - CYFWELIAD FIDEO
Ar gyfer y rhan fwyaf o’n cynlluniau, byddwch yn cael eich gwahodd i ymateb i nifer o gwestiynau drwy lwyfan digidol. Ar hyn o bryd, rydyn ni am ddysgu mwy amdanoch chi, eich cryfderau a'ch cymhelliant dros wneud cais. Bydd y rhan fwyaf o’r cwestiynau yn gofyn i chi recordio ymateb fideo, gyda rhai yn gofyn am ymateb ysgrifenedig. Peidiwch â phoeni oherwydd byddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â recordio eich ymatebion. Byddwch hefyd yn gallu ail-recordio eich ymatebion. Ni fydd angen i chi gwblhau cyfweliad fideo ar gyfer rhai o’n rolau technegol.
CAM 4 - CANOLFANNAU ASESU
Cam olaf ein proses yw canolfan asesu, sy’n cael ei chynnal ar-lein fel arfer. Mae hyn yn cynnwys cyfres o ymarferion fel ymarfer grŵp a chyfweliad. Mae’r profiad wedi’i gynllunio i roi’r cyfle gorau i chi ddangos i ni beth allwch chi ei wneud, yn ogystal â’ch cymhelliant i ymuno â’r BBC, y rôl a’r cynllun. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â staff y BBC a gofyn unrhyw gwestiynau iddynt. Ar gyfer rhai cynlluniau, byddwn yn gofyn i chi gwblhau tasg cyn-asesu cyn y diwrnod, neu gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein.
CAM 5 – CYNNIG
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cynnig i chi ymuno â ni ym mis Medi 2024. Yn y cyfnod rhwng cael eich cynnig a’ch dyddiad dechrau, bydd ein tîm cynlluniau yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am bopeth sydd arnoch ei hangen cyn eich diwrnod cyntaf yn y BBC. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu ag eraill sy’n ymuno â’n cynlluniau a chael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.
RHAGOR O WYBODAETH AM WEITHIO YN Y BBC >