Cynllunio’r Gweithlu
I ba bynnag gyfeiriad y mae'ch busnes yn mynd, bydd cael y nifer cywir o bobl â'r sgiliau cywir, yn y man cywir ar yr amser cywir yn caniatáu ichi fwrw ymlaen â'ch cynlluniau a chael y canlyniadau rydych yn eu dymuno.
Mae Cynllunio'r Gweithlu yn broses sy'n gallu rhoi'r canlynol ichi:
- busnes ystwyth sy'n barod i newid, boed hynny yn yr hirdymor neu'r tymor byr
- cronfa fwy amrywiol o dalent sy'n dod ag elfennau newydd i'ch busnes
- pobl sydd wedi ymroi eu hunain i'ch busnes oherwydd eu bod yn deall y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ei lwyddiant.
Gall yr wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yma eich helpu i gynllunio'ch gweithlu ar gyfer eich anghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol; ac i fod â'r gallu i addasu i'r cyfleoedd a'r heriau a fydd yn codi.
Wrth ichi fynd ati i gynllunio eich gweithlu, bydd y canlynol yn bwysig:
- Tynnu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael am eich busnes, gan gynnwys ei nodau a'r weledigaeth ar ei gyfer, cynlluniau busnes, yr amgylchedd y mae'n gweithredu ynddo, dadansoddiad ariannol a phroffiliau'r gweithlu.
- Dealltwriaeth drylwyr o'ch gweithlu, gan gynnwys proffil strwythurol y swyddi sydd gennych a phroffil nodweddion eich gweithwyr.
- Nodi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a datblygu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- Dylech gynnwys yn eich cynlluniau y dulliau y byddwch yn eu defnyddio i gynnal y llif gweithwyr ar gyfer eich gweithlu, a sut y byddwch yn cynyddu neu'n lleihau eich gweithlu yn ôl galwadau'r farchnad.
Adnoddau pellach i'ch helpu chi:
Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein
Cwrs Cynllunio'r Gweithlu a Recriwtio
Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i'r cwrs Cynllunio’r Gweithlu a Recriwtio a chyrsiau sgiliau a hyfforddiant eraill. Gellir cofrestru am ddim ac mae’n syml.
Rhaglenni Sgiliau a Hyfforddiant
Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i raglenni addas yn ôl eich anghenion, neu fel arall dewiswch yr Awdurdod Lleol priodol i gael gwybod y rhaglenni cymorth sydd ar gael - yn eich ardal.