Sut i bleidleisio

Printable version

1. Trosolwg

Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU.

Bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cadarnhewch pa fathau o brawf adnabod y gallwch eu defnyddio cyn i chi fynd i bleidleisio.

Mae rheolau gwahanol os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffyrdd o bleidleisio

Gallwch bleidleisio:

Ni allwch bleidleisio ar-lein mewn unrhyw etholiadau.

Cymhwysedd i bleidleisio

Gallwch bleidleisio pan fyddwch:

  • yn 18 oed mewn etholiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • yn 16 oed yn etholiadau Senedd yr Alban ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban (ac mewn etholiadau eraill pan fyddwch yn 18 oed)
  • yn 16 oed yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru (ac mewn etholiadau eraill pan fyddwch yn 18 oed

Etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt

Mae rheolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio mewn etholiadau a refferenda gwahanol.

2. Pleidleisio yn bersonol

Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol).

Eich cerdyn pleidleisio

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio.

Dim ond yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi.

Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn.

Pryd y gallwch bleidleisio

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (‘y diwrnod pleidleisio’).

Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos eich prawf adnabod ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.

Byddwch yn cael papur pleidleisio â rhestr o’r bobl, y pleidiau neu’r opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.

Llenwi eich papur pleidleisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn yr orsaf bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.

Pleidleisio os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:

  • mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl

  • bythau pleidleisio lefel isel

  • cyfarpar i bleidleiswyr â nam ar eu golwg

Mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o’r papur pleidleisio a dyfais bleidleisio gyffyrddadwy arbennig i helpu pobl sy’n colli eu golwg.

3. Pleidleisio drwy'r post

Mae’n rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am wneud cais i bleidleisio drwy’r post, er enghraifft:

  • os ydych oddi cartref
  • os ydych dramor ac am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban 

Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.

Gwneud cais am bleidlais bost

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o’r canlynol:

  • etholiad unigol ar ddyddiad penodol
  • cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • hyd at dair blynedd

Gallwch wneud y canlynol:

Mae ffurflen wahanol ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy’r post yng Ngogledd Iwerddon.

Newid i ble caiff eich cerdyn pleidleisio drwy’r post ei anfon

Dylech wneud cais newydd am bleidlais bost os byddwch yn symud tŷ neu os byddwch oddi cartref pan gaiff y bleidlais bost ei hanfon.

Mae ffurflen wahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost

Pan fyddwch yn pleidleisio drwy’r post, dylech wneud y canlynol:

  • marcio eich pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol  
  • llenwi’r datganiad pleidleisio drwy’r post
  • rhoi’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr amlen a ddarperir
  • selio’r amlen eich hun

Postiwch eich papur pleidleisio yn ôl cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyfrif.

Os bydd yn rhy hwyr i chi bostio eich papur pleidleisio

Ewch â’ch papur pleidleisio i’ch gorsaf bleidleisio leol erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, neu’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol cyn iddi gau.

Os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, dim ond mewn Swyddfa Cofrestru Etholiadol y gallwch gyflwyno eich pleidlais bost.

Caiff eich pleidlais ei gwrthod os na fyddwch yn rhoi eich pleidlais bost i aelod o’r staff yn yr orsaf bleidleisio neu’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol ac yn cwblhau ffurflen. Peidiwch â phostio eich papur pleidleisio drwy flwch llythyrau’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun a phleidleisiau post hyd at 5 pleidleisiwr arall. Os ydych yn ymgyrchydd gwleidyddol, rhaid i’r 5 pleidleisiwr arall fod yn aelodau o’ch teulu neu’n bobl rydych yn darparu gofal rheolaidd iddynt.

Cael papur pleidleisio newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi neu ar goll

Mae angen i’ch papur pleidleisio ddangos eich manylion a’ch pleidlais yn glir. Os bydd wedi’i ddifrodi, bydd angen i chi gael un arall. 

Gallwch naill ai:

  • ofyn i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol bostio papur pleidleisio newydd yn ei le
  • casglu papur pleidleisio newydd o’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad (neu’r diwrnod cyn hynny yng Ngogledd Iwerddon)

Ni chewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os byddwch wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post ond bod eich papur pleidleisio ar goll neu wedi’i ddifrodi.

4. Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Dim ond o dan rai amgylchiadau y cewch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • bod i ffwrdd ar  y diwrnod pleidleisio
  • wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • problem feddygol neu anabledd
  • methu pleidleisio yn bersonol oherwydd gwaith neu wasanaeth milwrol

Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrtho dros ba ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) rydych am bleidleisio.

Sut i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Gallwch wneud y canlynol:

Rhaid i chi wneud cais erbyn:

  • 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • 5pm, 14 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

Os bydd y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi mynd heibio, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os byddwch yn bodloni unrhyw un o’r canlynol:

  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd  argyfwng meddygol neu anabledd
  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd eich gwaith
  • mae’r prawf adnabod ffotograffig roeddech yn bwriadu ei ddefnyddio i bleidleisio ar goll, wedi’i ddwyn, wedi’i ddifrodi neu wedi’i ddinistrio
  • nid ydych wedi cael prawf adnabod ffotograffig newydd neu un yn lle hen un rydych wedi’i archebu

Ni fydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn bersonol yn unrhyw etholiad neu refferendwm yn y DU. Cadarnhewch a oes angen i chi ddod â phrawf adnabod ffotograffig i bleidleisio.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch wneud cais hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Llenwch ffurflen bapur er mwyn:

Dylech ei hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Os ydych yn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd argyfwng meddygol, anabledd neu oherwydd eich gwaith, rhaid i’ch ffurflen gais gael ei llofnodi gan ‘berson priodol’ (er enghraifft, eich cyflogwr neu feddyg).

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 6 diwrnod cyn yr etholiad.

Edrychwch ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon i gael manylion am sut i  wneud cais.

Am ba hyd y bydd eich pleidlais drwy ddirprwy yn para

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy:

  • ar gyfer etholiad neu refferendwm unigol ar ddyddiad penodol
  • am gyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban 
  • yn barhaol

Pwy all fod yn ddirprwy

Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod bod yr unigolyn:

  • wedi cofrestru i bleidleisio
  • yn cael pleidleisio yn y math o etholiad a gynhelir
  • yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio 

Bydd angen i’r unigolyn fynd â’i brawf adnabod ffotograffig ei hun gydag ef er mwyn pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Os na all gyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd angen iddo gysylltu â’ch Swyddog  Cofrestru Etholiadol leol i drefnu i fwrw ei bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post.

Newid neu ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy

I newid pwy sy’n gweithredu fel eich dirprwy neu i ddechrau pleidleisio yn bersonol, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Os byddai’n well gennych bleidleisio drwy’r post, cwblhewch ffurflen gais am bleidlais bost.

5. Pleidleisio o dramor

Mae’r ffordd y byddwch yn pleidleisio pan fyddwch dramor yn dibynnu ar y canlynol:

  • p’un a fyddwch dramor dros dro neu a ydych yn byw dramor

  • ble yr hoffech bleidleisio

Os byddwch dramor dros dro

Gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, er enghraifft ar wyliau neu ar daith gyda’ch gwaith.

Pleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Gallwch drefnu:

Os byddwch dramor ar ddiwrnod yr etholiad, bydd angen i chi wneud trefniadau ymlaen llaw. Gwnewch gais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw’r etholiad neu’r refferendwm lai na phythefnos i ffwrdd ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto.

Caiff eich papur pleidleisio drwy’r post ei anfon i’r cyfeiriad a ddewiswyd gennych 16 diwrnod cyn yr etholiad ar y cynharaf. Bydd angen i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon

Mae proses wahanol ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac y byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.

Os na fydd amser gennych i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio drwy’r post yng Ngogledd Iwerddon cyn mynd dramor, bydd angen i chi bleidleisio drwy ddirprwy. Ni allwch wneud cais i’ch pleidlais bost gael ei hanfon y tu allan i’r DU.

Os ydych yn symud dramor neu’n byw dramor

Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor.

Gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, os ydych yn gymwys. Gofynnir i chi wneud y dewis hwn pan fyddwch yn cofrestru.

Yna bydd angen i chi wneud cais drwy lenwi a phostio un o’r canlynol:

Gallwch hefyd gael y ffurflen wedi’i hanfon atoch dros e-bost neu drwy’r post pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.

Os ydych wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, ni allwch bleidleisio drwy’r post o dramor.

Cael cymorth i bleidleisio

Gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael gwybod pryd y gallai pleidleisiau post gael eu hanfon. Gallai hyn eich helpu i benderfynu p’un a ydych am bleidleisio drwy ddirprwy neu drwy’r post.

6. Prawf adnabod ffotograffig angenrheidiol

O 4 Mai 2023, bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau neu refferenda yn y DU.

Bydd ei angen arnoch i bleidleisio yn y canlynol:

  • is-etholiadau Senedd y DU

  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys cynghorau, meiri, Awdurdod Llundain Fwyaf a phlwyfi)

  • deisebau adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

  • refferenda cynllunio cymdogaethau a refferenda mewn Ardaloedd Gwella Busnes yn Lloegr

  • refferenda mewn awdurdodau lleol yn Lloegr (gan gynnwys refferenda am gynyddu’r Dreth Gyngor)

Cadarnhau bod gennych fath o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir

Bydd angen un o’r mathau canlynol o brawf adnabod ffotograffig arnoch i bleidleisio:

  • trwydded yrru cerdyn-llun ar gyfer y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)

  • trwydded yrru a gyflwynwyd gan yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel

  • pasbort y DU

  • pasbort a gyflwynwyd gan yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad

  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)

  • Bathodyn Glas

  • trwydded preswylio fiometrig

  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)

  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

  • Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon

  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr

  • Dogfen Etholwr Dienw

Gallwch hefyd ddefnyddio un o’r cardiau teithio canlynol fel prawf adnabod ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio:

Mae’n rhaid i’r llun ar eich prawf adnabod edrych fel chi. Gallwch ddefnyddio eich prawf adnabod hyd yn oed os na fydd y dyddiad yn ddilys bellach.

Os byddwch yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi fynd â’ch prawf adnabod eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi fynd â phrawf adnabod yr unigolyn.

Os ydych wedi newid eich enw

Mae’n rhaid i’r enw ar eich prawf adnabod gyfateb i’ch enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad yw’n cyfateb, bydd angen i chi wneud un o’r pethau canlynol:

  • cofrestru i bleidleisio eto gyda’ch manylion newydd

  • mynd â dogfen gyda chi i bleidleisio sy’n profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich prawf adnabod yn dweud ‘Jim Smith’ yn hytrach na ‘James Smith’.

Os nad oes gennych fath o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir

Os nad oes gennych fath o brawf adnabod ffotograffig sy’n caniatáu i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

7. Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall

Mae’n bosibl y gofynnir i chi bleidleisio ar ran rhywun arall os na fydd yr unigolyn hwnnw yn gallu pleidleisio yn bersonol. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Er mwyn bod yn ddirprwy, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

Gallwch fod yn ddirprwy ar gyfer:

  • hyd at ddau berson sy’n byw yn y DU
  • hyd at bedwar person os bydd o leiaf dau ohonynt yn byw dramor

Pleidleisio drwy ddirprwy yn bersonol

Cyn i chi bleidleisio, dylech gael gwybod pa ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) y mae’r unigolyn am bleidleisio ar ei gyfer.

Bydd angen i chi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y mae’r unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran yn pleidleisio ynddi fel arfer.  Efallai y bydd yr orsaf bleidleisio hon yn wahanol i’r orsaf bleidleisio rydych chi’n pleidleisio ynddi.

Os nad ydych yn gwybod i ba orsaf bleidleisio y dylech fynd, cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol y person rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran.

Efallai y bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig er mwyn pleidleisio  mewn rhai etholiadau. Cadarnhewch pa brawf adnabod ffotograffig y bydd ei angen arnoch. Nid oes angen i chi ddangos prawf adnabod yr unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran.

Pleidleisio drwy ddirprwy drwy’r post

Os na allwch gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio fel dirprwy drwy’r post.  

Bydd angen i chi wneud cais ar wahân hyd yn oed os ydych eisoes yn pleidleisio drwy’r post ar eich rhan chi eich hun.

Cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol y person rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran i gael ffurflen gais am bleidlais bost.