Cael rhif EORI
Pwy sydd angen EORI
Mae’n bosibl y bydd angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) arnoch os ydych yn symud nwyddau:
-
rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu Ynys Manaw ac unrhyw wlad arall (gan gynnwys yr UE)
-
rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
-
rhwng Prydain Fawr ac Ynysoedd y Sianel
-
rhwng Gogledd Iwerddon a gwledydd y tu allan i’r UE
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen rhif EORI arnoch hefyd i gofrestru ar gyfer trwydded allforio ar SPIRE (yn agor tudalen Saesneg).
Nid oes angen rhif EORI arnoch os ydych yn symud nwyddau sy’n bodloni’r ddau amod canlynol:
-
nid yw’r nwyddau o dan reolaeth
-
maent at ddefnydd personol yn unig
Os yw’ch busnes wedi’i leoli (wedi’i ‘sefydlu’) yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni
I gael rhif EORI, fel arfer mae’n rhaid i’ch busnes fod â safle sydd wedi’i leoli yn y wlad yr ydych am fewnforio iddi neu allforio ohoni – yr enw ar hyn yw ‘bod wedi’ch sefydlu’. Mae angen i’ch safle fod yn un o’r canlynol:
-
swyddfa gofrestredig
-
pencadlys canolog
-
sefydliad busnes parhaol – safle ble mae rhai o’ch gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thollau yn digwydd a ble mae’ch adnoddau dynol a’ch adnoddau technegol wedi’u lleoli’n barhaol
Os nad yw’ch busnes wedi’i leoli yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni
Dylech gael rhif EORI o hyd os ydych:
-
yn gwneud datganiad tollau ar gyfer cludo
-
yn gwneud datganiad tollau ar gyfer mynediad dros dro (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn gwneud cais am benderfyniad tollau
-
yn gwneud datganiad cryno wrth gyrraedd (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn gwneud datganiad cryno wrth ymadael (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn gwneud datganiad storio dros dro (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn cael gwarant tollau (yn agor tudalen Saesneg) am ddatganiadau ar gyfer mynediad dros dro neu ddatganiadau ail-allforio
-
yn gweithredu fel cludwr ar gyfer cludo nwyddau ar y môr, ar ddyfrffordd fewndirol neu drwy’r awyr
-
yn gweithredu fel cludwr sy’n gysylltiedig â’r system dollau ac yn dymuno cael hysbysiadau am gyflwyno neu ddiwygio datganiadau cryno wrth gyrraedd
-
wedi’ch sefydlu mewn gwlad cludo cyffredin (yn agor tudalen Saesneg) lle caiff y datganiad ei gyflwyno yn lle datganiad cryno wrth gyrraedd neu lle caiff ei ddefnyddio fel datganiad cyn gadael
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am rif EORI eich hun, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Bydd yn rhaid i’r person yr ydych yn ei benodi gael y rhif EORI yn eich lle chi.
Os ydych wedi’ch lleoli yn Ynysoedd y Sianel a’ch bod yn symud nwyddau i’r DU neu oddi yno, nid oes angen rhif EORI arnoch. Bydd angen rhif EORI arnoch os ydych yn defnyddio systemau tollau CThEF, megis System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).
Pryd bydd angen eich rhif EORI arnoch
Bydd angen eich rhif EORI arnoch os byddwch yn:
-
penodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg) a’ch bod wedi’ch ‘sefydlu’ yn y wlad rydych yn mewnforio iddi neu’n allforio ohoni
-
gwneud datganiad tollau – gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud datganiad tollau
-
defnyddio systemau tollau, megis y system CHIEF a’r System Rheoli Mewnforion ar gyfer Gogledd Iwerddon (ICS NI)
-
gwneud cais am benderfyniad tollau