Cymru'n mynd benben â Gwlad Pwyl am le yn Euro 2024

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae cefnogwyr Caernarfon yn hyderus bydd Cymru'n cipio'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Pwyl

Bydd Cymru'n wynebu Gwlad Pwyl mewn gêm enfawr yng Nghaerdydd nos Fawrth, wrth i'r ddwy wlad fynd benben am le yn Euro 2024.

Cymysg oedd ymgyrchoedd y ddau dîm yn eu grwpiau rhagbrofol, ond mae'n edrych fel pe bai'r ddau yn nesáu at eu gorau cyn ffeinal y gemau ail gyfle.

Llwyddodd Cymru i drechu'r Ffindir o 4-1 yn y rownd gynderfynol nos Iau, tra bo Gwlad Pwyl wedi rhoi cweir o 5-1 i Estonia.

Mae carfan Robert Page yn ceisio sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop - sy'n cael eu cynnal yn Yr Almaen yr haf hwn - am y trydydd tro yn olynol.

Os yn fuddugol nos Fawrth, bydd Cymru yn wynebu Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria yn eu grŵp yn Euro 2024.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Cymru i drechu'r Ffindir o 4-1 yn y rownd gynderfynol nos Iau

Cafodd Cymru ddechrau siomedig i'w hymgyrch i gyrraedd y bencampwriaeth, ond tua diwedd y grŵp rhagbrofol roedd pethau wedi gwella'n sylweddol.

Er mai yn y trydydd safle y gorffennodd Cymru yn y grŵp, roedd ffordd arall i gyrraedd Euro 2024 trwy'r gemau ail gyfle - ar sail eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr un oedd sefyllfa Gwlad Pwyl - a gafodd ymgyrch siomedig iawn yn eu grŵp rhagbrofol a gorffen yn drydydd - ond roedd ganddyn nhw le yn y gemau ail gyfle yn ogystal.

Disgrifiad,

Pa mor ffyddiog yw'r cefnogwyr yng Nghaerdydd brynhawn ddydd Mawrth?

Dywedodd Page y byddai'n "gyflawniad gwych" cyrraedd Euro 2024.

"Pryd bynnag 'dych chi'n mynd trwy ymgyrch, chi wastad yn mynd i gael ambell rwystr yn y ffordd, yn enwedig pan chi mewn cyfnod o newid, ac fe ddigwyddodd hynny yn yr haf," meddai.

"Beth sydd wedi plesio yw'r ymateb ers hynny.

"Fe fydden i'n ddyn balch iawn os ydyn ni'n llwyddo i 'neud e."

Disgrifiad,

Dywedodd Ben Davies fod y tîm yn haeddu lot o glod am eu perfformiadau yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale

Ar bapur, mae'n debyg mai Gwlad Pwyl sydd â'r garfan gryfaf, gydag ymosodwr Barcelona Robert Lewandowski yn gapten a sawl chwaraewr arall yn cynrychioli timau mawr, fel Jakub Kiwior o Arsenal a Piotr Zielinski o Napoli.

Ond bydd Cymru'n gobeithio parhau â'u record gref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ble maen nhw wedi colli dim ond un o'u 15 gêm ragbrofol ddiwethaf ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop.

"Mae'n record anhygoel, ac mae'n cefnogwyr ni'n enfawr," meddai Page.

"Roedd yr anthem yn anhygoel yr wythnos ddiwethaf, ac ry'n ni angen hynny eto nos Fawrth.

"Gadewch i ni gymryd mantais o hynny i'n cael ni dros y llinell."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robert Lewandowski sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau a sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros Wlad Pwyl

Mae Page wedi dweud eisoes ei fod yn falch o weld cymaint o chwaraewyr Cymru yn chwarae'n gyson dros eu clybiau, ac yn perfformio'n dda hefyd.

Y benbleth felly ydy pwy i ddechrau yn erbyn Gwlad Pwyl, yn enwedig yn y safleoedd ymosodol.

Fydd yr un tri a ddechreuodd yn erbyn y Ffindir - Brennan Johnson, Harry Wilson a David Brooks - yn cael cyfle arall?

Neu a fydd Page yn ffafrio Daniel James neu Kieffer Moore?

Cwestiwn arall ydy a fydd y capten Aaron Ramsey yn dechrau, ag yntau wedi dod yn ôl o anaf yn ddiweddar. Amser a ddengys.

O Budapest i Gaerdydd

Er bod disgwyl i ryw 33,000 o seddi gael eu llenwi yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, mae ambell un yn teithio ymhellach na'i gilydd i wylio'r gêm yn fyw.

Mae Heledd Llewelyn wedi bod yn ddiwyd yn gwylio gemau Cymru ers ei bod yn ifanc.

Ond fe wnaeth hi drefnu gwyliau gyda'i ffrindiau yn Budapest cyn sylwi bod gêm dyngedfennol Cymru yr un amser.

Mae hi felly wedi gorfod bwcio taith awyren ar wahân i'w ffrindiau ben bore Mawrth er mwyn cyrraedd nôl mewn pryd i wylio'r gêm yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd wedi bod yn dilyn lwyddiant tîm Cymru ers ei bod yn ifanc iawn

Dywedodd: "Nes i fwcio gwyliau i Budapest gyda fy ffrindiau cyn sylweddoli bod potensial i Gymru guro'r Ffindir a bod Cymru am chwarae nos Fawrth ar yr amser ro' ni fod hedfan nôl.

"Nes i fwcio flight arall, felly dwi'n teithio nôl ar ddiwrnod y gêm er mwyn cyrraedd nôl mewn pryd, cyrraedd nôl tua 5 o'r gloch a mynd syth i'r gêm.

"Ro'n i fod hedfan i Bristol, ond bydda i'n teithio nôl ben fy hun i Stansted [er mwyn bod yng Nghaerdydd] erbyn y gêm."

Y farn o Wlad Pwyl

Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth fe ddywedodd Bryn Jones, sy'n byw yn ninas Poznan, fod cefnogwyr Gwlad Pwyl yn disgwyl i'r tîm cenedlaethol gyrraedd y rowndiau terfynol.

"Maen nhw'n llawer mwy hyderus nag oedden nhw pan wnaethon nhw glywed bo' 'na siawns o chwarae Cymru nôl yn y gaeaf," meddai.

"Ar y pryd roedd Gwlad Pwyl wedi cael cyfnod gwael o ran y gemau grŵp - wedi colli i Moldofa, Czechia, Albania ac yn y blaen - felly doedden nhw ddim yn hyderus o gwbl.

"Ond mae'r gêm yna yn erbyn Estonia nos Iau wedi rhoi hyder iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gwlad Pwyl ennill o 5-1 yn erbyn Estonia yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle

"Maen nhw wedi bod yn cyrraedd y cystadlaethau yma yn rheolaidd ers Euro 2008, ond mae hi'n jôc yma - unwaith maen nhw'n cyrraedd y gemau mawr dydyn nhw ddim yn gwneud fawr o ddim byd.

"Mae rheolwr newydd (Michal Probierz) wedi cyrraedd ac mae o'n edrych fel ei fod o wedi sbarduno rhywfaint o newid.

"O ran y tîm, dydi o ddim wedi newid llawer - ambell un wedi dod i mewn o gynghrair Gwlad Pwyl - ond dydi'r garfan ddim wedi newid fawr o ddim, ond bod mwy o drefn arnyn nhw efallai.

"Dwi'n meddwl bod nhw'n gweld hwn fel cyfle olaf i Lewandowski gyrraedd cystadleuaeth fawr... Mae'r eiliad yna o hud a lledrith dal yno, ac mae ei gael o yn y tîm yn rhoi hyder iddyn nhw."