Y Cymro sy'n hyfforddwr sgïo yn yr Alpau ers 33 mlynedd

33 o flynyddoedd yn ôl, yn 1991, roedd 'na newid byd i Alan Hole o'r Felinheli wrth iddo ddechrau gweithio fel hyfforddwr sgïo yn yr Alpau.

Ar ôl gweithio mewn nifer o ganolfannau addysg awyr agored ar draws y DU, fe symudodd Alan i Courchevel yn Ffrainc yn 1991.

Ag yntau bellach yn 78 oed, mae'n dal wrthi fel hyfforddwr yn yr Alpau, gan dreulio ei hafau yn y Felinheli.

Er bod Cymru dros 600 o filltiroedd i ffwrdd o'r Alpau, dywedodd ei fod yn "aml yn clywed pobl yn siarad Cymraeg".

"Neithiwr o'n i yn y bar bach yn y pentref, ac roedd yna hogia yn canu Calon Lan, ac oedd 'na dipyn bach o tears yn y llygaid pan o'n i'n clywed o", meddai.

Darllenwch fwy am Alan yma.