'Pawb yn saff' wedi i fws côr meibion fynd ar dân
Roedd y daith adref ar ôl cystadlu mewn eisteddfod nos Sadwrn yn un fwy dramatig na'r disgwyl i un o gorau meibion y de.
Aeth bws Bechgyn Bro Taf ar dân ar yr A470 yn ardal Libanus, ym Mhowys tua 01:00 fore Sul.
Bu'n rhaid i fws arall gludo'r 21 aelod adref, yn ddi-anaf, i Gaerdydd ac fe gafodd criw o orsaf dân Aberhonddu eu hanfon i'r safle i ddiffodd y fflamau.
Bu'n rhaid cau'r ffordd i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ond yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, roedd rhan ohoni yn dal ar gau brynhawn Sul wedi i'r tân ailgynnau yn ystod y bore.
"Aeth yr injan ar dân - ma' damweinia'n digwydd," meddai un o'r aelodau.
"Ma' pawb adra'n saff."
Yn anffodus, un o'r pethau a gafodd eu colli yn y fflamau oedd gwobr ariannol y côr - £300 - am ddod i'r brig yn Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd.