Ail-frandio tîm pêl-droed menywod Caerdydd wrth anelu am y brig
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gwalia United, neu’r hen Cardiff City Ladies, gynllun uchelgeisiol.
Ar ac oddi ar y cae, blaenoriaeth y clwb yw codi statws pêl-droed menywod.
Ond mae Gwalia, sy'n chwarae yn nhrydedd haen Lloegr, hefyd yn anelu am y brig o fewn pum mlynedd.
Y WSL, neu’r Barclays Women’s Super League, yw’r nod - a chystadlu yn erbyn clybiau fel Arsenal, Chelsea a Manchester City.
Yn ôl Emily Poole, sy’n chwarae yng nghanol cae, “heb Cardiff City Ladies a’r pobl oedd yn rhan o hynny does dim Gwalia United”.
“I cyrraedd yr WSL dwi’n credu bydd e’n bwysig iawn i llawer o bobl, ac i’r gêm yng Nghymru," meddai.
Mae Casi, 16, newydd ymuno â’r clwb eleni ac iddi hi mae’n gyfle cyffrous i serennu.
Dywedodd: “Dwi ‘di bod yn 'ware i garfan dan 16, 17 a gobeithio galla'i mynd 'mlaen i dan 19 Cymru.
“Dwi wedi cael llawer o gyfleoedd, mynd i deithio i gwledydd gwahanol, ond i fi fel chwaraewr ma’n gyfle i ddatblygu ymhellach a gobeithio sgorio mwy o gols i Gwalia.”
Pa mor realistig yw'r freuddwyd?
Dim ond un fuddugoliaeth sydd i’w henw y tymor hwn cyn belled.
Yn ôl Rheolwr Cyffredinol newydd y clwb, Trystan Bevan, mae’r uchelgais o gyrraedd y WSL “yn agosach na beth ma' pobl yn meddwl”.
“Bydde fe ddim yn digwydd blwyddyn hyn, falle ddim blwyddyn ar ôl 'ny ond o ran y strategaeth a’r hyder sydd gyda ni bydde fe yn digwydd," ychwanegodd.
Mae’r clwb wedi chwarae o fewn y system yn Lloegr erioed, ac yno maen nhw’n gweld eu dyfodol.
Ychwanegodd Trystan taw yn Lloegr “mae’r arian a’r asbri”.
“Pe tasen ni’n gallu cyrraedd yr WSL, bydd hwnna wedyn yn rhoi ni fel un o dimau proffesiynol mwya' llwyddiannus Cymru.”
Mae ail-frandio Cardiff City Ladies i Gwalia United yn nodi pennod newydd a chyffrous yn hanes y clwb, gyda galw am fwy o dimau menywod.
Yn ôl Kath Morgan, cyn-amddiffynnwr a chyn-hyfforddwr tîm menywod Cymru, “ma’ sefyll ar ben eich hunain yn ddewr a mae’n risg, ond fi’n credu neith e talu ffordd yn y pen-draw”.
Dywedodd bod gêm y menywod “nawr yn ddeniadol, ma' pobl busnes yn gweld bod gap yn y farchnad i neidio fewn i clybiau fel hyn”.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022