Y Gymraes a ddaeth yn dywysoges Sweden
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Wyddoch chi fod un o aelodau mwyaf poblogaidd y teulu brenhinol yn Sweden yn yr 20fed ganrif yn dod o Gymru? Dyma hanes Tywysoges Lilian, Duges Halland.
Cafodd Lillian May Davies ei geni yn Abertawe ar 30 Awst 1915, yn ferch i William John Davies a Gladys Mary.
Roedd ei thad wedi gweithio yn y pyllau glo ac wedyn ar stondin yn y farchnad. Roedd ei mam yn gweithio mewn siop.
Yn yr 1920au, roedd ei thad wedi gadael y teulu, ac roedd ei mam wedi marw o ganser, felly gadawodd Lillian Abertawe pan oedd hi’n 16 oed a symud i Lundain.
Dechreuodd sillafu ei henw fel ‘Lilian’, a dechrau gweithio fel model ac actores. Roedd lluniau ohoni mewn cylchgronau fel Vogue, ac roedd pobl yn ei chymharu gyda Marlene Dietrich
Priododd yr actor Ivan Craig yn 1940. Aeth Ivan i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd yn Affrica, a dechreuodd Lilian weithio mewn ffatri ac ysbyty ar gyfer milwyr oedd wedi brifo.
Yn 1943, mewn parti i ddathlu ei phen-blwydd yn 28 oed, gwelodd y Tywysog Bertil am y tro cyntaf. Bertil oedd ŵyr y Brenin Gustaf V o Sweden. Roedd y ddau wedi syrthio mewn cariad yn syth.
Ar ôl dod adref o’r rhyfel, cafodd Ivan Craig a Lilian ysgariad, ond doedd Lilian a Bertil ddim yn cael priodi oherwydd ei bod hi ddim o deulu brenhinol.
Am dros 30 mlynedd, roedd y ddau yn byw gyda’i gilydd yn Ffrainc a Sweden.
Yn 1976, priododd Lilian a Bertil ar ôl cael caniatâd y Brenin Carl XVI Gustaf, nai Bertil.
Roedd Lilian nawr yn rhan o’r teulu brenhinol, ac yn gwneud swyddogaethau tywysoges a gwaith gydag elusennau. Roedd pawb yn hoffi ei chynhesrwydd a’i hiwmor.
Roedd Bertil wedi marw ers 1997, a bu farw Lilian ar 10 Mawrth 2013 yn Stockholm yn 97 oed.
Geirfa
aelodau/members
poblogaidd/popular
brenhinol/royal
Tywysoges/Princess
Duges/Duchess
stondin/stall
sillafu/to spell
cylchgronau/magazines
cymharu/to compare
priodi/to marry
ymladd/to fight
Ail Ryfel Byd/Second World War
dathlu/to celebrate
ŵyr/grandson
Brenin/King
ysgariad/divorce
caniatâd/permission
swyddogaethau tywysoges/duties of the princess
elusennau/charities
cynhesrwydd/warmth
hiwmor/humour
angladd/funeral
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd3 Medi
- Cyhoeddwyd22 Awst