Pryder bod costau'n amharu ar brofiad prifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o fyfyrwyr yn gweithio tra'n astudio er mwyn mynd i'r afael â chostau byw - ac yn ôl swyddog undeb myfyrwyr, mae hynny'n bryder.
"'Da ni yn poeni bod hynna yn mynd i effeithio ar eu hastudiaethau nhw," meddai Catrin Edith Parry, sy'n rhan o dîm Undeb Prifysgol Caerdydd.
Wrth i filoedd o fyfyrwyr newydd ddechrau yn y brifysgol, mae un corff ymchwil yn dweud nad yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigon i sicrhau safon byw da er bod y pecyn cymorth Cymreig yn fwy hael na'r pecyn i fyfyrwyr o rannau eraill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd un brifysgol eu bod wedi cynyddu taliadau caledi ac un arall bod yna fwy o alw am gymorth.
Ynghanol prysurdeb wythnos y glas, dywedodd Catrin Edith Parry fod myfyrwyr newydd mewn "bybl" ar hyn o bryd yn cwrdd â ffrindiau newydd.
"Mae'n wythnos lle ma’r pres yn dod mewn - cyllid myfyrwyr ac ma' pawb yn hapus wythnos yma ond dwi’n meddwl unwaith byddan ni 'di pasio rhyw fis arall bydd y poeni yna’n dod yn ôl eto.”
Dywedodd bod yna lawer o fyfyrwyr erbyn hyn yn gwneud swydd ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
"'Da ni’n gweld bod myfyrwyr yn gorfod gweithio swyddi sy' bron yn llawn amser i 'neud yn siŵr bod gynnon nhw ddigon o bres i fyw yma," ychwanegodd.
"'Da ni isio i bobl gael y profiad prifysgol a 'neud yn dda, ond 'da ni yn gweld bod hynna’n dechra' bod yn broblem.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2023
Fel rhan o'r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru, mae pawb yn cael grant costau byw o £1,000 ac mae hyd at £8,100 i'r rheini sy' ddim yn byw adref ac yn astudio tu fas i Lundain - yn dibynnu ar incwm teuluol.
Y cyfanswm grantiau a benthyciadau gall myfyrwyr o Gymru sy'n astudio tu fas i Lundain hawlio yw £12,150 a hyd at £15,170 yn Llundain.
Yn ôl y felin drafod Higher Education Policy Institute, mae hynny'n fwy hael na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ond ddim ond yn 65% o'r hyn sydd ei angen ar gyfer safon byw derbyniol.
Mae Steffan Huw, 18, o Sir Gaerfyrddin yn gwerthafwrogi'r cymorth ariannol sydd ar gael.
“Yng Nghymru, ni mewn sefyllfa olreit i gymharu â myfyrwyr o Loegr – dydyn nhw ddim yn cael gymaint a 'ny o gwbwl.
"Y’n ni’n cael cyfran fel grant hefyd sy' ddim rhaid i ni dalu nôl.”
Ond mae meddwl am y ddyled ar ôl astudio yn bryderus, meddai.
Astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth mae Grace Browne, 18, o Abertawe, ac mae'n teimlo'n "rili cyffrous ond rili nerfus" am ddechrau yn y brifysgol.
“Dwi’n becso am y dyfodol - y costau yn y dyfodol, talu nôl y student loan. Ond am nawr dwi’n budgeto a dwi’n meddwl bydda i’n iawn," meddai.
“Mae gen i swydd rhan-amser yn barod. Dwi’n 'neud un dydd Sadwrn yr wythnos, jyst i helpu popeth, a helpu costau a stwff fel ’na.”
Mae Iwan Bryer, hefyd o Sir Gaerfyrddin, wedi cael cyngor gan ei deulu am sut i arbed arian.
"Mae mam-gu wedi dangos yr app rili cool ma lle mae restaurants yn twli mas bwyd ar ddiwedd y dydd a mae nhw’n neud bocsys a’n gostwng prisiau.
"Ma lot o gymorth 'di bod yn pethe fel y freshers fair ’ma heddi... a ma' lot o wefannau rili handi yn gallu rhoi cymorth i chi i safio arian mewn ffordd rili syml.”
Cymorth gan brifysgolion
Dywedodd Prifysgolion Cymru bod sefydliadau'n gweithredu i helpu myfyrwyr sydd yn ei chael hi'n anodd yn ariannol trwy gynnig cymorth ymarferol fel llefydd cynnes i weithio, gweithdai addysg ariannol neu ehangu cronfeydd caledi.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynyddu eu taliadau caledi i uchafswm o £2,000, tra bod Prifysgol Abertawe wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth dros ddwy flynedd.
Yn ôl Deio Owen, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru mae 'na fwlch rhwng incwm myfyrwyr a chostau.
"'Da ni’n gweld bod myfyrwyr yn gallu talu dros £6,000 y flwyddyn ar rent yn unig sy’n bryderus iawn”.
Mae'n cydnabod bod yna "gwestiynau allan yna o ran beth ydi gwerth graddau prifysgol" ond mae'n credu bod yna fudd mawr i gael gradd.
"Mae 'na astudiaethau’n dangos bod prifysgol yn eich rhoi chi mewn sefyllfa well i gael swyddi yn y dyfodol a bod 'na werth i fynd i brifysgol," ychwanegodd.
Y neges i fyfyrwyr yw i wneud y mwyaf o'r cyngor sydd ar gael.
“'Da ni rili isio gweld myfyrwyr yn mwynhau tra bo' nhw yma’n y brifysgol", meddai Catrin Edith Parry o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
"Ond plîs, plîs dewch i siarad efo ni os oes gennych chi unrhyw bryderon.”