Rhybuddion melyn am ddeuddydd o wynt a glaw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod disgwyl tywydd garw yn y rhan helaeth o Gymru ddydd Sul.
Daeth rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rym am 09:00 ac mae'n para nes 23:59.
Mae'n berthnasol i 13 o siroedd Cymru - Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.
Mae disgwyl y gallai gwyntoedd, wrth gryfhau wrth deithio o'r gorllewin tua'r dwyrain, hyrddio hyd at 55mya, yn enwedig mewn mannau arfordirol.
Yn y mannau mwyaf agored fe allai'r hyrddiadau gyrraedd 60mya, ac mae disgwyl cawodydd o law trwm hefyd ar brydiau,
Fe allai'r amodau greu trafferthion i yrwyr, yn ogystal ag amharu ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Daeth rhybudd melyn am law i rym yn ne Cymru rhwng 16:00 brynhawn Sul a 09:00 fore Llun.
Mae disgwyl 20-30mm o law dros gyfnod o naw i 12 awr yn y mwyafrif i lefydd, ond mae 50-80mm o law yn bosib ar diroedd uchel.
Yna fe fydd rhybudd melyn arall - eto am law trwm - yn dod i rym dros nos yn y gogledd ddwyrain.
Fe allai siroedd Wrecsam, Y Fflint a Dinbych ddisgwyl 20-40 mm o law rhwng 00:30 a 20:00 ddydd Llun - hyd at 60mm mewn ambell le.