'Yr eira, pobl a'r craic' - 33 mlynedd fel hyfforddwr sgïo
- Cyhoeddwyd
33 o flynyddoedd yn ôl, yn 1991, roedd 'na newid byd i Alan Hole o'r Felinheli wrth iddo ddechrau gweithio fel hyfforddwr sgïo yn yr Alpau.
Ag yntau bellach yn 78 oed, mae'n dal wrthi fel hyfforddwr yn yr Alpau, gan dreulio ei hafau yn y Felinheli.
Ar ôl gweithio mewn nifer o ganolfannau addysg awyr agored ar draws y DU, fe symudodd Alan i Courchevel yn Ffrainc yn 1991.
Roedd yn rhan o dîm a sefydlodd yr ysgol sgïo Brydeinig gyntaf yn yr Alpau Ffrengig, yn sgil y galw cynyddol am hyfforddwyr Saesneg eu hiaith.
Dywedodd: "Dwi'n mwynhau gweithio yma, mae'r eira'n dda, a 'dach chi'n cyfarfod pobl ddiddorol pob dydd."
33 o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Alan Hole o'r Felinheli yn dal i weithio fel hyfforddwr sgïo yn yr Alpau
'Aml yn clywed pobl yn siarad Cymraeg'
Er bod Cymru dros 600 o filltiroedd i ffwrdd o'r Alpau, dywedodd ei fod yn "aml yn clywed pobl yn siarad Cymraeg".
"Neithiwr o'n i yn y bar bach yn y pentref, ac roedd yna hogia yn canu Calon Lan, ac oedd 'na dipyn bach o tears yn y llygaid pan o'n i'n clywed o", meddai.
Mae Alan o'r farn mai un o'r rhesymau mae cymaint o Gymry yn dod allan i Ffrainc yw bod nifer o lethrau wedi eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod y 70au a'r 80au.
Fe ddisgrifiodd ei fywyd allan yn Ffrainc fel un "ofnadwy o dda".
Ond er ei fod yn mwynhau ei amser allan yn yr Alpau, dywedodd ei fod yn dychwelyd i Gymru yn yr haf er mwyn gweithio.
"Does 'na ddim digon o bres ynddo fo. Mae'n rhaid i chi gael gwaith arall yn yr haf i gadw fynd."
O fynyddoedd yr Alpau i fynyddoedd Eryri, mae Alan yn "mynd yn ôl i Gymru i Wynedd a dwi'n mwynhau hedfan microlights allan o Faes Awyr Caernarfon ac mae'n ddiddorol iawn ac yn fendigedig hedfan o gwmpas mynyddoedd Eryri", meddai.
'Newid hinsawdd yn cael effaith ar y diwydiant'
Ag yntau wedi bod yn gweithio yn yr Alpau am 33 o aeafau, aeth ymlaen i sôn am y newid amlwg y mae wedi gweld i'r hinsawdd, a hynny o ganlyniad i gynhesu byd eang.
Dywedodd: "Dwi 'di bod yn gweithio yn Ffrainc nawr am 33 gaeaf ac ond yn y pum gaeaf diwethaf dwi 'di bod yn wlyb ac oedd hynna ddim yn digwydd 20 mlynedd yn ôl.
"Roedd hi'n rhy oer pob dydd. Mae'n amlwg bod newid hinsawdd yn cael effaith ar y diwydiant."
Er ei fod yn 78 oed dywedodd ei fod "eisiau cadw fo fynd am flynyddoedd mwy".
Fe ddywedodd ei bod hi'n "good craic i weithio 'ma bob gaeaf".
"Mae 'na ormod o law yn Eryri, tra mae'r haul allan yma bob dydd."