Tripiau'n 'dychwelyd yn gynnar' o'r cyfandir i osgoi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion a chwmnïau bysus wedi bod yn addasu trefniadau tripiau i'r cyfandir rhag ofn y bydd yna ail benwythnos o oedi difrifol ym mhorthladddoedd de-ddwyrain Lloegr.
Mae staff a disgyblion ysgol uwchradd yn Wrecsam yn gadael Ffrainc yn gynt na'r bwriad gwreiddiol ar ôl cael eu dal mewn ciw yn Dover am 17 o oriau penwythnos diwethaf.
Yn ôl athrawon Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, mae staff "rhwng dau feddwl" ynghylch trefnu tripiau tebyg yn y dyfodol os na fydd yna ddatrysiad i'r trafferthion.
Ac mae cwmni bysiau o'r gogledd wedi awgrymu bod yna or-ddibyniaeth ar borthladd Dover.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Kaeti Breward, athrawes ymarfer corff yn Ysgol Sant Joseff, bod y 40 disgybl wedi cael "wythnos anhygoel" yn Ffrainc, ar ôl cyrraedd pen eu taith 12 awr yn hwyr.
Bu'n rhaid colli sesiwn sgïo gyntaf y trip "achos roedd y plant jyst wedi blino gormod - oedd o'm yn saff i fynd â nhw i fyny".
Maen nhw hefyd wedi gorfod canslo sesiwn sgïo olaf y trip brynhawn Gwener ar ôl penderfynu gadael y ganolfan ganol y prynhawn a cheisio dal fferi adref o Dunkirk fore Sadwrn, yn gynt na'r bwriad yn wreiddiol.
Dywedodd Ms Breward eu bod wedi mynd i archfarchnad leol cyn gadael i brynu pethau fel bisgedi a chreision ar gyfer y daith adref.
Fe ddywedodd wrth y BBC ddechrau'r wythnos bod yna ddiffyg bwyd ar gyfer teithwyr oedd yn sownd yn y ciwiau yn Dover penwythnos diwethaf "felly 'dan ni jyst yn poeni fydd o'r un peth eto".
Ychwanegodd bod eu gwesty'n paratoi prydau iddyn nhw fynd gyda nhw wrth adael.
'Dan ni'n falch iawn o'r help 'dan ni 'di ga'l," meddai. "Ma' nhw 'di bod yn wych, yn neud y trip mor cystal â fedrith nhw ar ôl trafferthion wythnos dwytha."
Ychwanegodd eu bod "rhwng dau feddwl" ynghylch hedfan wrth drefnu tripiau tebyg yn y dyfodol.
"'Dan ni 'di bwcio i fynd Pasg flwyddyn nesa', ond ar ôl hynny... os ma'r un peth yn digwydd flwyddyn nesa', bydd rhaid i ni ailfeddwl, achos fedrwn ni ddim neud hynny eto ac ella sbio ar fflio allan," meddai.
Ond fe fynegodd bryder na fyddai pawb yn gallu fforddio i dalu cannoedd yn fwy i fynd ar drip ysgol, gan fod plant wedi "bod yn safio am flynyddoedd" ar gyfer trip eleni.
'Gobeithio'n wir am well'
"Dwi erioed 'di gweld hi mor ddrwg â'r penwythnos diwetha," meddai Steve Jones o gwmni bysus Llew Jones, Llanrwst ar raglen Dros Frecwast.
"Gaethon ni ein heffeithio'n arw iawn."
Roedd wyth o fysus y cwmni wedi gadael am y cyfandir ddydd Gwener a dydd Sadwrn diwethaf.
"Nath 'na rai cwmnïau 'dan ni'n gweithio i oro talu am westai yng ngogledd Ffrainc er bod nhw'n mynd i lefydd fel Andorra neu'r Eidal i sgïo. Oedd hi'n anodd iawn."
"'Dan ni'n gobeithio y byddan nhw wedi rhoi mwy o gychod yn eu lle, mwy o staff, yn enwedig gan y Ffrancwyr yn passport control.
"Dwi'n gobeithio wir y bydd pethau'n mynd yn well. Dwi erioed 'di gweld hi mor ddrwg â'r penwythnos dwetha.
"Mae eisiau i'r llywodraeth feddwl am fwy o borthladdoedd. Pan o'n i'n cychwyn 30 mlynedd yn ôl, roedd 'na lawer mwy o ffyrdd i groesi na sydd 'na rŵan. Mae 'na ormod o ddibynnu ar Dover fel porthladd."
Bydd un bws cwmni Llew Jones yn teithio i Ffrainc ddydd Gwener a dau ddydd Sadwrn. Fe fydd pum bws yn dychwelyd o Calais i Dover a dau yn teithio i'r cyfeiriad arall.
"Swn i'n feddwl bod y rhai sy'n dod yn ôl ddim yn rhy ddrwg, ond dwi'n poeni am y rhai sy'n mynd allan," meddai Mr Jones, sy'n dweud eu bod wedi anfon gyrwyr ychwanegol tua de-ddwyrain Lloegr.
"Yn aml iawn pan mae bysiau yn mynd i'r Eidal, neu yn bell i Ffrainc neu Andorra mae 'na fwy na dau yrrwr.
"Mae 'na ddau yrrwr yn mynd i ardal Llundain, a wedyn gyrrwr arall yn mynd i fan hyn [Llanrwst] yn codi'r bobl, ac yna newid drosodd rhywla ar y ffordd lawr.
"'Dan ni 'di gyrru nhw reit lawr i Dover, cyn bellad â fedran ni yrru nhw, i roi mwy o amser i'r gyrwyr sy'n mynd drosodd [ar y fferi]."
Dywedodd rheolwyr porthladd Dover bod mesurau ychwanegol i geisio rheoli traffig dros benwythnos y Pasg, ond bod yna "ychydig oriau o aros" yn ystod oriau brig ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2023